Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r pandemig yn cynnig cyfleoedd i ddarparu dull cydweithredol o gynllunio ar gyfer iechyd a llesiant

Cyhoeddwyd: 7  Chwefror 2022

Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ym maes cynllunio gofodol gyda chydweithwyr ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn sicrhau'r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl wrth adfer o bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn digwyddiad ‘Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol’ sy'n edrych ar sut i gydgysylltu cynllunio ac iechyd a sicrhau'r adferiad mwyaf posibl o COVID-19. Bydd y digwyddiad yn darparu rhai ffyrdd ymarferol o wneud hyn a datblygu argymhellion o'r adroddiad hwn. 

Mae'n dangos y gall cyfranogiad cynnar a gweithio cydgysylltiedig ar draws sawl disgyblaeth helpu i fynd i'r afael â'r heriau rhyng-gysylltiedig sydd wedi dod i'r amlwg a dyfnhau ers y pandemig, ac y dylai'r dull hwn gael ei weithredu ar sail Cymru gyfan. 

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod polisïau cynllunio gofodol mewn sawl rhan o Gymru yn croesawu'r cysyniad o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng disgyblaethau gwahanol, mae angen i'r dull hwn gael ei ymgorffori ar draws pob polisi a chynllun sy'n effeithio ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol, er mwyn sicrhau iechyd a llesiant mwyaf posibl y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. 

“Mae'n hanfodol bod ystyried iechyd a llesiant, ac ymgorffori hyn, yn rhan annatod o ddatblygiadau, ac nad yw'n cael ei ystyried yn ‘rhywbeth ychwanegol dewisol’ drwy sicrhau bod seilwaith a gwasanaethau yn cael eu rhoi ar waith o'r cychwyn. 

“Mae gan y sector iechyd rôl gynyddol bwysig ym maes cynllunio gofodol – mae angen i dimau iechyd cyhoeddus lleol, darparwyr iechyd cyhoeddus a gofal iechyd gymryd rhan mor gynnar â phosibl.” 

Mae’r adroddiad yn ailadrodd bod ymgysylltu â'r cyhoedd wrth ddatblygu cynlluniau o'r camau cynnar yn hanfodol a bod gan gynllunwyr ac awdurdodau lleol gyfrifoldeb i barhau i annog ymgysylltu a chyfranogi mewn penderfyniadau cynllunio.  Mae'n awgrymu bod pandemig y Coronafeirws wedi datgelu mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd a chymunedau ymgysylltu ag awdurdodau, yn enwedig drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. 

Yn ogystal, mae'n datgan bod y pandemig wedi rhoi cyfle i gynllunwyr feddwl yn wahanol am leoedd – drwy archwilio heriau amgylcheddol ac economaidd a gwella'r effaith y maent yn ei chael ar iechyd, llesiant a chydraddoldeb.  Mae'r adroddiad yn nodi y dylai tai o ansawdd da gael eu datblygu mewn lleoedd bywiog, cydlynol, ac y dylid pennu safonau gofynnol ar gyfer lleoedd i ddiwallu anghenion y dyfodol, er enghraifft gweithio gartref. 

Mae ‘Sicrhau'r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl ar gyfer cynllunio gofodol yn yr adferiad o bandemig COVID-19’ yn rhan o gyfres o adroddiadau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol.