Neidio i'r prif gynnwy

'Mae'r ffordd y mae'r gymdeithas wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r pandemig hwn wedi bod yn rhyfeddol'

Mae heddiw (23 Mawrth 2022) yn nodi dwy flynedd ers cyfnod clo cyntaf Cymru, mewn ymateb i'r Coronafeirws.

Mae Cyfarwyddwr Digwyddiad Coronafeirws, Dr Giri Shankar MBE wedi bod ar reng flaen yr ymateb diogelu iechyd i'r feirws ers y diwrnod cyntaf. Gwnaethom ofyn iddo fyfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf ac edrych ymlaen at sut y mae angen i bob un ohonom fyw gyda'r Coronafeirws wrth symud ymlaen.

C.      Mae pethau negyddol amlwg o'r pandemig ond pa bethau cadarnhaol ydych chi wedi'u gweld yn deillio ohono, yn bersonol ac mewn cymdeithas?

A.      Mae'r ffordd y mae'r gymdeithas wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r pandemig hwn wedi bod yn rhyfeddol. Mae pobl wedi bod yn barod i wneud aberth enfawr nid yn unig i amddiffyn eu hunain, eu teulu a'u ffrindiau ond hefyd er budd cymdeithasol ehangach.

Yn sgil ymddygiad amddiffynnol a fabwysiadwyd gan y boblogaeth ni welsom unrhyw effaith negyddol o heintiau anadlol tymhorol eraill, fel Ffliw neu Feirws Syncytiol Anadlol am ddau dymor yn olynol.

Mae'r gweithlu diogelu iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod yn fwy cydnerth diolch i'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi helpu ein tîm i ehangu'n sylweddol a bydd hynny o fudd mawr i ni ar gyfer y dyfodol

C.      Gan wybod yr hyn rydych yn ei wybod mawr, beth fyddech chi wedi'i wneud yn wahanol, os o gwbl?

A.      Mae ôl-ddoethineb bob amser yn beth gwych. Rydym bellach yn gwybod llawer mwy am y feirws nag yr oeddem ddwy flynedd yn ôl. Er enghraifft, byddai datblygiadau mewn opsiynau triniaeth, datblygu brechlynnau effeithiol, ac effeithiolrwydd ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol - byddai pob un o’r rhain, pe byddent yn hysbys ac ar gael yn 2020 wedi golygu y gallem fod wedi achub mwy o fywydau ac ni fyddai'r angen i gael cyfyngiadau llymach, gan gynnwys cyfnod clo.

C.      Pe gallech siarad â Giri ym mis Mawrth 2020 beth yw'n un darn o gyngor y byddech yn ei roi iddo?

A.      Mae’n farathon; nid sbrint ac ni allwch redeg marathon fel sbrint. Byddwn wedi cynghori fy hun i “arafu” ychydig.

C.      Beth ydych chi wedi'i ddysgu amdanoch eich hun yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf?

A.      Rwyf wedi dysgu bod gennyf gydnerthedd personol enfawr a theulu hynod gefnogol (gwraig a phlant), a heb eu cefnogaeth nhw ni fyddwn wedi gallu gweithio fel y gwneuthum. Rwyf hefyd yn sylweddoli y gallwn fod, ac mae'n debyg y dylwn fod wedi bod, yn well o ran rheoli amser gan wahaniaethu mwy rhwng y pwysig a'r brys.

C.      Beth mae eich plant yn credu rydych yn ei wneud yn y gwaith? A sut oedd eu profiad nhw o'r pandemig?

A.      Maen nhw'n meddwl mai'r cyfan rwy'n ei wneud yn y gwaith yw cael cyfarfodydd a siarad a siarad a siarad – ac nad wyf byth yn gadael fy man gwaith.

Roedd eu profiad o'r pandemig h.y. y cyfnod clo yn ofnadwy oherwydd fel pawb arall nid oeddent wedi gallu mynd allan ac roedd yn rhaid iddynt wneud eu gwersi/aseiniadau ar-lein. Nid oedd bod gartref 24/7 yn braf i unrhyw un ac nid oedd yn helpu bod dad (fi) yn gweithio ar benwythnosau hefyd.

C.      Sut ydych yn ymdopi â straen?

A.      Rwy'n ceisio osgoi teimlo straen a diolch byth dydw i ddim yn profi straen yn aml iawn. Mae myfyrio ac ioga yn sicr yn helpu ac rwy'n gwneud hynny bob dydd. Rwyf hefyd yn tynnu fy sylw fy hun drwy ddilyn amrywiaeth o chwaraeon – chwaraeon moduro (F1), criced (rwy'n chwarae dros dîm lleol) a tennis.

C.      Ai chi yw Superman Cymru pe bai wedi ymddiddori mewn gofal iechyd?

A.      Nid wyf am ystyried mai dyna ydw i. Anaml y mae'n ymwneud ag unigolyn fel fi. Mewn ymateb pandemig ar y raddfa hon, yr archarwyr go iawn yw aelodau fy nhîm. Maent wedi wynebu rhai o'u heriau proffesiynol a phersonol mwyaf ac er gwaethaf hynny, maent wedi gwneud mwy na'r disgwyl o ran ceisio cadw Cymru'n ddiogel.

C.  A ydym yn debygol o gael cyfnod clo arall oherwydd Covid?

A.           Mae'n anodd iawn rhagweld yn gywir beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Fodd bynnag, fy ngobaith yw na fydd yn rhaid i ni byth gael cyfnod clo arall oherwydd COVID. Diolch i'r ddarpariaeth frechu wych yng Nghymru, mae ein risg sylfaenol ar lefel y boblogaeth wedi gostwng i raddau helaeth (o ran cymhlethdodau mwyaf difrifol COVID – h.y, derbyn i unedau gofal dwys a marwolaeth) bellach o'i gymharu â mis Rhagfyr 2020. Os gallwn gynnal lefel dda o imiwnedd y boblogaeth wedi'i hategu gan gydymffurfiaeth barhaus ag ymddygiad amddiffynnol sylfaenol, ni ddylai'r angen am gyfnod clo godi. Ond nid ydym byth yn dweud byth o ran COVID.

C.      Sut ydych yn teimlo am ddiwedd cyfyngiadau?

A.      Rwy'n teimlo'n gadarnhaol iawn am hyn. Mae hyn yn cydnabod bod tueddiad y boblogaeth wedi lleihau'n sylweddol felly mae symud o gyfyngiadau a orfodir yn gyfreithiol i ymddygiad unigol a asesir gan risg yn galluogi cymdeithas i weithredu mewn ffordd llawer mwy hyblyg a chymesur.

C.      A fyddwch yn dal i wisgo masg mewn rhai sefyllfaoedd, ac os felly ble?

A.      Byddaf, o leiaf am y dyfodol rhagweladwy. Yn bennaf mewn mannau dan do gorlawn, trafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n teimlo, beth bynnag sydd o dan fy rheolaeth uniongyrchol i gyfyngu ar ledaeniad haint (neu ei ddal) y dylwn fod yn ei wneud.

C.      Beth yw'r darn gorau o gyngor y byddech yn ei roi i unrhyw un sydd ag ofn dal Covid ac sy'n nerfus am fynd allan/diwedd y cyfyngiadau?

A.           Rwy'n gwerthfawrogi'n llawn y bydd rhai pobl yn teimlo'n nerfus. Byddwn yn dweud wrth unigolion o'r fath bod yr asesiad risg ar lefel poblogaeth wedi newid a'i fod bellach yn llawer is nag yn 2020. Mae gennym frechlynnau effeithiol ac felly byddaf yn annog pob unigolyn cymwys i gael ei frechiadau diweddaraf fel blaenoriaeth. Byddwn hefyd yn tynnu eu sylw at y datblygiadau ym maes opsiynau triniaeth ar gyfer COVID a'r ffaith bod tystiolaeth wyddonol, ac yn wir ein data ein hunain yn cefnogi'r naratif bod cymhlethdodau difrifol o COVID yn lleihau.