Neidio i'r prif gynnwy

Mae siarad am brofiadau plentyndod gydag ymwelydd iechyd yn cyfoethogi perthnasoedd ac yn gwella iechyd y teulu cyfan

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (25.05.21) yn awgrymu pan fydd ymwelwyr iechyd yn holi am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) y sawl sy'n rhoi gofal fel rhan o'u hymweliadau rheolaidd, ceir cyfres o fanteision cadarnhaol i bawb.

Mae’r rhain yn cynnwys cefnogi iechyd meddyliol a chorfforol y sawl sy'n rhoi gofal, a datblygu perthynas wedi’i chyfoethogi rhwng yr ymwelydd iechyd a’r sawl sy’n rhoi gofal sy'n golygu y bydd y sawl sy'n rhoi gofal yn fwy tebygol o deimlo’n gyfforddus yn trafod materion eraill yn y dyfodol.   

Dyma ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth: 
•    Er gwaethaf pryderon cychwynnol ymwelwyr iechyd ynghylch ymateb negyddol posibl, cafodd y cynnig o ymholiad ACE dderbyniad da iawn, gyda 9 o bob 10 o’r rhai sy'n rhoi gofal yn cytuno i gymryd rhan yn y cynllun peilot, ar draws y tri bwrdd iechyd
•    Dywedodd dros 40% o’r rhai sy’n rhoi gofal sydd ag unrhyw ACE mai'r cynllun peilot ymholiadau ACE oedd y tro cyntaf iddynt ddweud wrth weithiwr proffesiynol neu wasanaeth am y profiadau hyn, gyda’r datgeliad cyntaf yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion sy'n rhoi gofal (55.1% o ddynion ag ACE).
•    Roedd 4 o bob 5 o’r rhai sy’n rhoi gofal a roddodd adborth yn cytuno bod eu Hymwelydd Iechyd wedi dod i'w hadnabod yn well drwy holi am eu profiadau yn ystod plentyndod ac awgrymodd 85% fod yr ymyriad wedi eu gwneud yn fwy tebygol o drafod materion eraill gyda'u Hymwelydd Iechyd yn y dyfodol. Felly roedd ansawdd eu perthnasoedd a’r gwasanaeth a gawsant wedi gwella.
•    Roedd y rhai sy’n rhoi gofal a gafodd ymholiad ACE yn llawer llai tebygol o nodi eu bod yn profi straen rhieni (chwe mis ôl-enedigol), o gymharu â’r rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn ymholiad ACE.

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i werthuso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ‘Ymholiad ymwelwyr iechyd am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) y rhai sy’n rhoi gofal: Canfyddiadau allweddol o werthusiad peilot’ yn adeiladu ar gynllun peilot blaenorol, llai a gynhaliwyd yn Ynys Môn yn 2018. Roedd yr astudiaeth hon yn fwy o lawer gyda mwy na 1,000 o’r rhai sy’n rhoi gofal yn cymryd rhan, ar draws tri bwrdd iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Katie Hardcastle, Uwch-ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Canolbwyntiodd yr astudiaeth beilot wreiddiol ar ardal llawer llai a mamau yn bennaf fel y prif rai sy'n rhoi gofal, ond dangosodd botensial ar gyfer sicrhau budd gwirioneddol i deuluoedd a’r Ymwelwyr Iechyd eu hunain.

“Drwy ehangu’r astudiaeth roeddem yn gallu gwerthuso’r model hwn o ymholiad ACE gyda sampl mwy ethnig amrywiol ac ar draws ardaloedd daearyddol fel lleoliadau mwy gwledig, ac yn bwysig edrych ar brofiadau tadau ochr yn ochr â mamau, fel y rhai sy’n rhoi gofal.

“Er bod pryder i ddechrau y gallai gofyn i bobl fyfyrio ar brofiadau anodd yn ystod plentyndod gael effaith negyddol, mae tystiolaeth o’r gwerthusiad hwn yn awgrymu bod y gwrthwyneb yn wir ar gyfer y rhai sy'n rhieni am y tro cyntaf. Felly mae hyn wedi rhoi cipolwg defnyddiol iawn o ran sut y gall dull sy'n cael ei lywio gan ACE helpu ymwelwyr iechyd i gefnogi teuluoedd i wella eu hiechyd a'u llesiant.

“Mae'r astudiaeth hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwaith pellach i ddeall pam y gallai manteision o'r fath ddod i'r amlwg a sut y gall gwasanaethau sicrhau bod manteision o'r fath yn cael eu profi gan bob rhiant a theulu.”

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar gynllun peilot blaenorol a gynhaliwyd yn Ynys Môn. Defnyddiodd yr adroddiad hwn ar raddfa fwy hyfforddwr-hwylusydd i weithio gydag Ymwelwyr Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gynllunio a chyflwyno dull o holi mamau a thadau am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) o fewn cysylltiadau ymwelwyr iechyd rheolaidd (a elwir yn ‘ymholiad ACE’). Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gomisiynu i werthuso’r rhaglen beilot hon ar raddfa ganolig.

Mae'r adroddiad yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen beilot drwy drafod safbwynt yr ymarferydd a’r defnyddiwr gwasanaethau ac ystyried effeithiau posibl ymholiad ACE ar iechyd a llesiant teuluoedd.