Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned yn allweddol i adfer ar ôl y pandemig

Cyhoeddwyd: 25 Gorffennaf 2022

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac Uned Epidemioleg Integreiddiol y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Bryste yn awgrymu y gallai harneisio'r cynnydd mewn gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ystod yr ymateb i'r pandemig, fod yn allweddol i adeiladu cymunedau mwy cydnerth ledled Cymru, sy'n gallu ymateb yn well i effaith barhaus adfer ac addasu i argyfwng yn y dyfodol.   

Yn ystod y pandemig, chwaraeodd pobl ran hanfodol wrth helpu'r rhai mwyaf agored i niwed a helpu asiantaethau swyddogol drwy ddod yn rhan annatod o'r ymateb ehangach mwy ffurfiol i'r pandemig; gyda'r cymunedau eu hunain yn aml yn fwyaf gwybodus am anghenion eu cymuned eu hunain a sut i'w diwallu, a chyda chysylltiadau ac ymddiriedaeth sefydledig. 

Er y gall sefyllfaoedd argyfwng o'r fath waethygu gwendidau mewn seilwaith a systemau yn aml, a gwaethygu gwahaniaethau sy'n bodoli eisoes yn ein cymunedau; maent hefyd yn gatalyddion pwerus ar gyfer newid ac yn creu cyfleoedd i drawsnewid mewn adferiad, a gwella'r capasiti i atal a gwrthsefyll heriau tebyg yn y dyfodol. 

Meddai Dr Charlotte Grey, Prif Ymchwilydd: 

“Nod yr ymchwil hon oedd deall rôl gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ystod y pandemig. Yn benodol, i drafod y ffactorau galluogi; i ba raddau y gall gweithredu dan arweiniad y gymuned fynd i'r afael â phenderfynyddion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd; a sut y gellir cynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned ac integreiddio hyn yn effeithiol i'r system iechyd, y trydydd sector, a chymorth cymdeithasol.  

“Mae’r adroddiad yn cofnodi'r hyn a ddysgwyd gan y rhai a ymatebodd i arolwg o wirfoddolwyr anffurfiol a ffurfiol ledled Cymru, wedi'i ategu gan ganfyddiadau gan dderbynwyr cymorth, gwirfoddolwyr, ac arweinwyr, a gasglwyd drwy gyfres o gyfweliadau mewn dwy gymuned yn ne Cymru. Gwnaethom hefyd drafod potensial defnyddio data cyfryngau cymdeithasol (Twitter) i nodi lefelau anghenion a chymorth sy'n bresennol yn y gymuned.”   

Meddai Dr Oliver Davis, Athro Cyswllt a Chymrawd Turin yn Ysgol Feddygol Bryste: 

“Mae natur gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ei gwneud yn anodd mesur gyda ffynonellau data traddodiadol, ond rhoddodd negeseuon cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol wybodaeth a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr i ni, fel y gallem ategu'r canfyddiadau o brofiad y cymunedau â dealltwriaeth o lesiant cymunedol mewn amser real.“ 

Meddai'r Athro Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae'r ymchwil hon wedi llywio fframwaith i alluogi a chynnal gwirfoddoli anffurfiol a gweithredu dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i unrhyw bandemig a sioc gymdeithasol yn y dyfodol. Mae'r cyfleoedd hyn ar gyfer gweithredu yn rhychwantu'r ymateb i'r pandemig (h.y. parodrwydd, yn ystod y pandemig, ac ar ôl hynny - mewn adferiad ac ar ôl hynny).” 

Mae'r ymchwil yn nodi tair elfen allweddol i alluogi a chynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Y rhain oedd:  

  • deall asedau cymunedol a ffactorau lle  
  • integreiddio gweithredu dan arweiniad y gymuned i'r system ehangach  
  •  galluogi'r amodau sy'n ysgogi tegwch iechyd.  

Mae’r data'n dangos sut y gall y canfyddiadau hyn helpu i adeiladu cymunedau cydnerth ledled Cymru, sy'n gallu ymateb i'r effaith barhaus o ran adfer o'r pandemig (ar gyfer cymunedau cyfan a'r rhai sydd eisoes dan anfantais) ac addasu i argyfyngau yn y dyfodol (boed hynny'n glefyd heintus, newid hinsawdd neu heriau economaidd). 

Mae cymunedau cydnerth, sy'n gallu ymateb i argyfyngau yn y dyfodol ac adfer ohonynt yn bwysig i iechyd y boblogaeth, yng Nghymru ac yn rhyngwladol Bydd gwell dealltwriaeth o weithredu dan arweiniad y gymuned ledled Cymru, sut y mae'r asedau gwerthfawr hyn yn cael eu defnyddio mewn ymatebion lleol i'r pandemig, ac i ba raddau y gall hyn gyfrannu at degwch iechyd yn helpu gwneuthurwyr polisi i ddeall yn well sut i gynorthwyo cymunedau llai cydnerth a pharatoi ar gyfer digwyddiadau andwyol yn y dyfodol. 

Mae'r gwaith hwn wedi'i gyllido gan y Sefydliad Iechyd, fel rhan o Raglen Ymchwil COVID-19. Mae'r Sefydliad Iechyd yn elusen annibynnol sy'n ymrwymedig i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU.