Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiadau sganio'r gorwelion yn darparu dysgu rhyngwladol hanfodol er budd Iechyd yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 10 Mai 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei drydydd Calendr Cryno o Adroddiadau Sganio'r Gorwelion Rhyngwladol.  

Mae'r adroddiadau, a gynlluniwyd yn wreiddiol i helpu i lywio'r ymateb a oedd yn datblygu i bandemig y coronafeirws a chynlluniau adfer yng Nghymru wedi eu hehangu i gwmpasu amrywiaeth eang o bynciau iechyd cyhoeddus pwysig a chyfoes. Mae tystiolaeth, polisïau, arfer da a data o wledydd eraill, yn ogystal â chanllawiau a diweddariadau gan asiantaethau rhyngwladol, yn cael eu dwyn ynghyd ym mhob un o'r adroddiadau.  

Meddi Dr Mariana Dyakova, arweinydd Iechyd Rhyngwladol a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:   

“Mae'n bleser gennym barhau i Sganio'r Gorwelion Rhyngwladol ar ôl y pandemig, ar ôl i ni weld y diddordeb mawr a'r adborth cadarnhaol gan gydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, y GIG a'n partneriaid a'n rhwydweithiau rhyngwladol.  

“Rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i ddarparu mewnwelediad defnyddiol gan wledydd perthnasol ac asiantaethau byd-eang, gan helpu i lywio blaenoriaethau iechyd cyhoeddus a materion sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru a thu hwnt.”  

Mae'r Calendr Cryno yn rhoi trosolwg byr a rhyngweithiol o'r saith Adroddiad Sganio'r Gorwelion o 2022-2023, gyda themâu sy'n cynnwys:  

  • Gofal canolraddol 
  • Yr argyfwng costau byw  
  • Gwneud yr amgylchedd addysgu'n wydn yn erbyn COVID: 4-18 oed  
  • Addysg a gofal plentyndod cynnar  
  • Ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechu   
  • Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a chynyddu achosion o fod yn agored i niwed  
  • Effaith COVID-19 ar gynyddu’r bwlch iechyd a bod yn agored i niwed  

Mae pob un o'r crynodebau yn cynnwys trosolwg o'r pwnc, astudiaethau achos rhyngwladol, a chysylltiadau â gwaith cysylltiedig yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.  

Mae'r gyfres o adroddiadau Sganio'r Gorwelion yn rhoi crynodeb lefel uchel o ddysgu o brofiadau bywyd go iawn o wledydd dethol, a chan amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol a llwyd. Mae'r adroddiadau, a gyhoeddir bob deufis, yn cynnig cipolwg byr o'r dystiolaeth, polisi ac ymarfer presennol, gan rannu enghreifftiau o wledydd perthnasol a chanllawiau ac egwyddorion cyrff rhyngwladol. 

Mae'r Calendr Cryno yn ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n cyfrannu at Gymru iachach, fwy cyfartal, gydnerth, ffyniannus a chyfrifol yn fyd-eang. Mae pob adroddiad yn gysylltiedig â'r Nod Llesiant perthnasol.  

Gellir gweld y Calendr Cryno yma: