Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn penodi Cyfarwyddwr Cenedlaethol newydd ar gyfer Amddiffyn Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio

Cyhoeddwyd: 3 Mawrth 2021

Mae Dr Fu-Meng Khaw wedi cael ei benodi i'r brif swydd amddiffyn iechyd yng Nghymru, gan ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Amddiffyn Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Bydd Dr Khaw yn ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mehefin o Public Health England (PHE) lle mae'n Gyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer Lleoedd a Rhanbarthau yn PHE gyda chyfrifoldeb am Iechyd Porthladdoedd a rôl PHE yn y Rhaglen Atal Diabetes genedlaethol.

Mae Dr Khaw wedi chwarae rhan genedlaethol allweddol yn ymateb PHE i COVID-19, gan gynnwys fel cadeirydd Cell Gweithrediadau'r Canolfannau a'r Rhanbarthau, Cyfarwyddwr yr Uned Cyflawni Rhaglenni i sicrhau'r ansawdd gorau a chysondeb yr ymateb, Cadeirydd y Tasglu Amrywiolion a Mwtaniadau, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Cenedlaethol a Dirprwy Brif Gynghorydd Meddygol Profi ac Olrhain GIG Lloegr.

Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Canolfan ar ran Public Health England yn rhanbarth Dwyrain Canolbarth Lloegr, yn gyfrifol am gyfarwyddo tîm o arbenigwyr iechyd y cyhoedd i amddiffyn a gwella iechyd y cyhoedd ar draws y rhanbarth o 4.6 miliwn o bobl.

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Mae ein Gwasanaeth Amddiffyn Iechyd wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymateb cenedlaethol i COVID-19 yma yng Nghymru ac rwy'n falch iawn o allu croesawu Meng, y bydd ei sgiliau, ei brofiad a'i arweinyddiaeth yn cryfhau gwasanaeth sydd eisoes yn perfformio'n dda."

Dywedodd Dr Khaw, "Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol, nid yn unig o ran amddiffyn y cyhoedd rhag y coronafeirws heddiw, ond i sicrhau ein bod ni’n parhau i feithrin gwydnwch ar gyfer y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda thimau ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ar draws y system ehangach yng Nghymru i fynd i'r afael â hyn."

Hyfforddodd Meng fel llawfeddyg orthopedig cyn dechrau ar yrfa ym maes iechyd y cyhoedd. Ers 2009, mae wedi dal nifer o uwch swyddi gan gynnwys Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Tyneside ac yn ddiweddarach yn Newcastle upon Tyne.