Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio pecyn cymorth newydd er mwyn helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb 

Cyhoeddwyd: Dydd Iau 1 Gorffennaf 2021

Mae pecyn cymorth newydd, rhyngweithiol, ‘Newid Sylweddol ar gyfer Planed Gynaliadwy, wedi'i lansio heddiw gan Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae'r adnodd wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau i ddeall y nodau datblygu cynaliadwy byd-eang, a nodi lle gallant wneud gwahaniaeth cadarnhaol tuag at y newidiadau cynaliadwy sydd eu hangen ar y byd. O ystyried y pandemig byd-eang, mae'r cynnwys hefyd yn amlygu sut y gall sefydliadau gefnogi adferiad gwyrdd o COVID-19.   

Mae'r pecyn cymorth yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â Phrif Weinidog Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiad lefel uchel ar adeiladu dyfodol cynaliadwy a chydnerth, ar achlysur Fforwm Gwleidyddol Lefel Uchel 2021. Mae'r adnodd wedi'i gynllunio i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDG) yn llawn i gyflawni dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb, drwy ganolbwyntio ar: 

Y cefndir i ddatblygu cynaliadwy, gan gynnwys dull arloesol Cymru drwy ei Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

Astudiaethau achos ar wneud newidiadau cynaliadwy ar draws pum lefel: lefelau gwlad, system, sefydliad, tîm ac unigol 

Adnoddau ymarferol a graffeg i gynorthwyo newid sylweddol, gan gynnwys deunyddiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 

Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r pecyn cymorth hwn yn adnodd ymarferol iawn y gall sefydliadau byd-eang ei ddefnyddio i chwarae eu rhan wrth fynd ati ar frys i greu planed gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Fel dinasyddion byd-eang, rydym yn gweld sut y mae'r ddwy her o newid hinsawdd a COVID-19 yn ehangu'r anghydraddoldebau a'r anghyfiawnderau yr oeddem eisoes yn mynd i'r afael â nhw cyn y pandemig. Yn sgil hyn, gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn helpu i ysgogi ymdrechion o'r newydd i gyflawni'r nodau byd-eang.”    

Mae'r pecyn cymorth hynod weledol a hygyrch wedi'i baratoi drwy rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y fenter ‘Gweithredu ar y Cyd dros Degwch Iechyd yn Ewrop’ (JAHEE) er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chyflawni mwy o degwch iechyd ar draws cymdeithas. Yn bwysig, mae'r adnodd yn dangos er bod COVID-19 yn cael rhai effeithiau negyddol ar y nodau byd-eang, mae hefyd yn bosibl hyrwyddo adferiad cynaliadwy drwy adeiladu ar yr ymddygiad cadarnhaol yr ydym yn ei weld yn y pandemig drwy ostyngiad eithafol o ran gweithgarwch dynol a mwy o ymgysylltu â natur a chymunedau lleol.   

Gellir gweld y pecyn cymorth, ‘Newid Sylweddol ar gyfer Planed Gynaliadwy’, yma: 

Mae rhagor o wybodaeth am y Digwyddiad Lefel Uchel ar adeiladu dyfodol cynaliadwy a chydnerth ar gael yma:  

https://www.regions4.org/events/subnational-governments-leading-integrated-approaches/