Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cynnydd o ran amlder data profion llif unffordd

Cyhoeddwyd: 21 Ionawr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwelliannau pellach i'w ddangosfwrdd adrodd cyflym Covid-19 sy'n wynebu'r cyhoedd.

O ddydd Iau 20 Ionawr, bydd gwybodaeth am brofion dyfeisiau llif unffordd yn cael ei diweddaru bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar y tab ‘Profion Llif Unffordd’ ar y dangosfwrdd. 

Bwriad yr ychwanegiad hwn i'r dangosfwrdd yw rhoi darlun mwy cyflawn o'r Coronafeirws yng Nghymru, yn dilyn y newid o ran profion – sy'n golygu nad oes angen i bobl heb symptomau sy'n profi'n bositif ar ddyfais llif unffordd gael prawf PCR dilynol mwyach. 

Meddai Dr Chris Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae dyfeisiau llif unffordd yn rhan bwysig o'r strategaeth profion Coronafeirws wrth ganfod a yw unigolyn yn heintus. Mae'r data o'r profion hyn yn cael eu hadrodd yn amlach er mwyn cynnal a chyfateb y tryloywder o ran adrodd canlyniadau profion, waeth beth fo'r dull profi. Mae'r dulliau dadansoddi'n cael eu datblygu a dylid eu dehongli'n ofalus. Dylai unigolion symptomatig barhau i ofyn am brawf PCR a'i gymryd, ond defnyddir profion llif unffordd i wirio heintusrwydd mewn unigolion asymptomatig (neu gyn-symptomatig).” 

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r cyhoedd o bwysigrwydd sicrhau bod yr holl ganlyniadau profion llif unffordd – positif a negyddol - yn cael eu hadrodd ar gov.uk/report-covid19-result.  Bydd hyn yn helpu i wella ein dealltwriaeth o'r darlun Coronafeirws yng Nghymru.”