Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog gofal wrth fynd i wyliau a chynulliadau torfol

Cyhoeddwyd: 20 Awst 2021

Cyn y tymor pan fydd gwyliau’n cael eu cynnal ledled y DU, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl o'r risg o drosglwyddo'r Coronafeirws mewn cynulliadau torfol, gwyliau a digwyddiadau mawr eraill.

Mae gwyliau, digwyddiadau chwaraeon a chynulliadau torfol yn ailddechrau ledled y DU yn dilyn llacio'r cyfyngiadau, ond mae Iechyd Cyhoeddus yn awyddus i ailadrodd nad yw Covid wedi diflannu, a'i bod yn bwysig bod mynychwyr yn cymryd rhagofalon i osgoi trosglwyddo'r feirws.

Meddai Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Achos Lluosog yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Wrth i'r cyfyngiadau lacio ar draws y DU, ac wrth i wyliau a chynulliadau torfol ddechrau eto, rydym yn ymwybodol y bydd llawer o bobl am fynd iddynt a'u mwynhau ar ôl misoedd lawer o fethu gwneud hynny.

“Yn ôl y disgwyl ar ôl symud i Lefel Rhybudd 0, mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi codi ac ar hyn o bryd maent dros 200 o achosion fesul 100,000.

“Er bod y rhaglen frechu wedi lleihau'r lefelau o ran derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau, mae'r feirws yn dal i fynd ar led yn ein cymunedau.

“Mae sawl cam y gall pobl eu cymryd er mwyn lleihau'r posibilrwydd o drosglwyddo'r feirws.
“Yn gyntaf, derbyniwch eich cynnig o frechiad pan fyddwch yn ei gael, gan mai dyma'r ffordd orau o atal salwch difrifol, gorfod mynd i'r ysbyty a marwolaeth.

“Yn ogystal, os oes gennych symptomau Covid ewch i gael prawf PCR (drwy ffonio 119 neu fynd i https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19), a hunanynysu hyd nes i chi gael y canlyniadau.  Ni ddylech fynd i ŵyl na chynulliad torfol arall os oes gennych symptomau.

“Dylech hefyd ystyried yn ofalus a yw'n synhwyrol mynd i'r digwyddiadau hyn os oes cyswllt agos wedi profi'n bositif am Covid, a sicrhau eich bod yn cael prawf PCR ar ddiwrnodau 2 ac 8.

“Pan fyddwch yn y digwyddiad, mae hylendid dwylo, gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol yn dal i fod yn fesurau effeithiol i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo.”