Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i ddewis i gymryd rhan mewn rhaglen ar ddeall effaith COVID-19 ar newid gwasanaethau ac anghydraddoldebau iechyd

Cyhoeddwyd: Dydd Llun 20 Tachwedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i ddewis gan y Sefydliad Iechyd, elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU, i fod yn rhan o'i raglen ymchwil newydd ar COVID-19.  Mae'r rhaglen yn ceisio deall effaith y pandemig mewn dau faes penodol:

  • sut y mae'r modd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi newid yn sgil COVID-19
  • effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd.

Mae'r rhaglen ymchwil yn cynorthwyo 10 tîm o bob rhan o'r DU gyda grantiau o rhwng £100,000 a £200,000. Bydd pob prosiect yn rhedeg am hyd at 12 mis.

Mae pob tîm yn amlddisgyblaethol, gan gyfuno arbenigedd o ystod eang o ddisgyblaethau a chynnwys cleifion, y cyhoedd a/neu bobl sydd wedi byw profiadau.

Mae'r prosiect dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn ceisio deall rôl gweithredu dan arweiniad y gymuned fel ffactor amddiffynnol yn erbyn anghydraddoldebau iechyd cynyddol yn ystod pandemig COVID-19 ac yn y broses o adfer ohono.

Bydd tîm y prosiect yn cyfweld â phobl a ddarparodd gymorth cymunedol (aelodau o'r gymuned), y rhai a gafodd gymorth cymunedol (y rhai a oedd yn hunanynysu neu'n gwarchod), a'r rhai a fu'n cydlynu cymorth cymunedol (sefydliadau gwirfoddol), a bydd yn cynnal arolwg cenedlaethol ar-lein o wirfoddolwyr. Y nod yw darganfod pa ffactorau a gyfrannodd at gamau gweithredu cryf dan arweiniad y gymuned, a sut roedd y cymorth hwn yn mynd i'r afael ag anghenion y mwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Bydd y prosiect hefyd yn edrych ar sut y gall camau gweithredu dan arweiniad y gymuned helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd; sut y gellir cynnal gweithredu newydd dan arweiniad y gymuned a gweithredu dan arweiniad y gymuned sy'n bodoli eisoes ac integreiddio hyn yn effeithiol i'r system iechyd, y trydydd sector, a chymorth cymdeithasol;  ac a all data cyfryngau cymdeithasol roi cipolwg ar lefelau angen a gweithredu dan arweiniad y gymuned ledled Cymru mewn amser real.

Dywedodd Dr Charlotte Grey, Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i adeiladu ar ein rhaglen ymchwil cydnerthedd cymunedol ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i fapio sut beth oedd llesiant cymunedol ledled Cymru yn ystod y pandemig. At hynny, byddwn yn trafod yn fanylach sut roedd cymunedau wedi cefnogi ei gilydd drwy'r don gyntaf o COVID-19, yr hyn a ysgogodd y gwirfoddolwyr cymunedol, a sut y gallwn helpu i gynorthwyo cymunedau i sicrhau bod y gweithredu cadarnhaol hwn yn parhau ac yn tyfu”.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bydd y ddealltwriaeth a geir drwy'r prosiect yn cael ei defnyddio i sicrhau y gall camau gweithredu dan arweiniad y gymuned gael eu cynorthwyo i helpu i ddiogelu rhag y gwahaniaethau tymor hwy o ran effaith iechyd, cymdeithasol ac economaidd COVID-19 ar draws ardaloedd lleol”.

Dywedodd Dr Jennifer Dixon, Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd:

“Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at newidiadau enfawr a chyflym i'r ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu. Mae'r pandemig hefyd wedi dwysáu anghydraddoldebau iechyd a oedd yn bodoli eisoes yn y wlad hon.

“Mae'r rhaglen grant hon yn ymchwilio i'r ddau faes hyn. A yw'r newidiadau mewn gwasanaethau yn fuddiol a sut y gwnaeth newid cyflym yn y ddarpariaeth ddigwydd? A beth allwn ni ei ddysgu o'r effaith anghymesur a gafodd COVID ar rai grwpiau poblogaeth? Y nod yw defnyddio'r ddealltwriaeth hon i helpu penderfyniadau ynghylch polisi a darparu gwasanaethau yn y dyfodol a allai fod o fudd i'r boblogaeth.”