Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Gwella wedi'i gyflwyno i dafarn yn Wrecsam yn sgil clwstwr coronafeirws

Ar ôl nodi nifer bach o achosion sy'n gysylltiedig â staff tafarn y North and South Wales Bank yn Wrecsam, mae Adran Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno Hysbysiad Gwella i'r safle.

Meddai'r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Er bod mesurau i gadw pellter cymdeithasol yn eu lle ac yn cael eu cynnal yn gyffredinol pan oedd staff yn delio â chwsmeriaid, mae ein hymchwiliad wedi dangos bod diffyg cydymffurfio â'r canllawiau mewn ardaloedd staff.

“Gwnaethom gyflwyno'r hysbysiad hwn er mwyn diogelu'r cyhoedd. Rhaid i bob sefydliad ddilyn y rheolau er mwyn helpu i gadw Wrecsam yn ddiogel.”

Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ailadrodd ei alwad i gwsmeriaid tafarn y North and South Wales Bank yn Wrecsam i fod yn wyliadwrus am symptomau coronafeirws (COVID-19).

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod yr achosion positif sydd wedi'u nodi yn y digwyddiad hwn wedi bod ymhlith y staff, ac ymddengys fod rhyngweithio rhwng y staff a chwsmeriaid wedi dilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol ar y cyfan, mae risg fach o hyd y gellid effeithio ar gwsmeriaid.

“Mae cysylltiadau uniongyrchol y rhai sydd wedi profi'n bositif wedi'u nodi a chysylltwyd â nhw.  Dylai unrhyw un a oedd yn y dafarn rhwng 9 a 20 Awst 2020 ac sy'n datblygu hyd yn oed symptomau ysgafn fynd ati ar unwaith i hunanynysu a chael prawf. 

“Gellir cael prawf coronafeirws am ddim ac mae'n syml i'w wneud, naill ai drwy fynd i www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio'r rhif am ddim 119. 

“Gellir gwneud prawf gartref gyda phecyn am ddim, neu drwy fynd i ganolfan brofi leol.”

“Mae nodi'r achosion hyn yn dystiolaeth bod y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio, ac nid oes achos wedi'i ddatgan.

“Wrth i ni symud drwy gam adfer pandemig y Coronafeirws, rydym yn disgwyl gweld clystyrau mewn gwahanol leoliadau.  Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o'r Coronafeirws yn briodol, gan gynnwys drwy roi cyngor ynghylch atal a rheoli heintiau, a thrwy gynorthwyo'r broses o olrhain cysylltiadau lle y bo angen.

“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd a pherchnogion busnes bod Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned.  Mae gan bob un ohonom ran hanfodol i'w chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol – sef aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo'n rheolaidd.”