Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i wella 2019-20: Sut y gwnaethom ymdrin â chwynion a chanmoliaeth.

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2021

Yn 2019-20, ymchwiliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i 52 o gwynion ffurfiol o dan ein gweithdrefn Gweithio i Wella, sef gostyngiad bach o saith o 59 y llynedd.

Yn ystod 2019/20 cawsom 82 o gwynion ‘yn y fan a'r lle’ sy'n gynnydd bach o gymharu â 2018/19. Rydym yn annog ein staff i ymdrin â chwynion ‘yn y fan a'r lle’ pryd bynnag y bo'n briodol. Mae’n bwysig ein bod yn cofnodi canmoliaeth a chwynion.

Meddai Gay Reynolds, Rheolwr Llywodraethu a Chyffredinol yn adran Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod gwerth rheoli cwynion yn effeithiol a'r dysgu sefydliadol dilynol sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau, swyddogaethau a rhaglenni.  Felly rydym yn croesawu cyfleoedd i ddysgu o brofiadau pobl, da neu ddrwg.”
Daw'r rhan fwyaf o'r adborth a gafwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein Hadran Sgrinio, sy'n ymdrin yn uniongyrchol â'r cyhoedd. Yn 2019-20, sgriniodd ein Hadran Sgrinio 642,000 o gyfranogwyr.  
Mae canran y pryderon a gafwyd gan yr Adran Sgrinio o gymharu â nifer yr unigolion sy'n cael eu sgrinio tua 1 am bob 13,375 o'r unigolion a sgriniwyd ac mae'n cynrychioli 0.007% yn unig o'r gweithgarwch sgrinio.

Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd dros 2066 o ganmoliaethau gan aelodau o'r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau o bob rhan o'r sefydliad gan ddangos cymhareb o 15:1 o ganmoliaethau i gwynion.

Roedd mwyafrif y canmoliaethau a gyflwynwyd yn diolch i aelodau o staff yn ein Hadran Sgrinio gyda'r adborth a gafwyd yn canmol agwedd gadarnhaol a phroffesiynoldeb ein staff, ynghyd ag adborth cadarnhaol am y gwasanaeth a phrydlondeb y canlyniadau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bob amser yn ymdrechu i wella'r gwasanaethau a gynigiwn. Os oes gennych unrhyw adborth ar unrhyw rai o'n gwasanaethau, yn dda neu'n ddrwg, rydym yn eich annog i anfon neges e-bost i: Cwynion.iechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk

Cliciwch yma i weld yr adroddiad: 

Adroddiad Blynyddol Gweithio i Wella 2019-2021