Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Coronafeirws; Canolfan Gyswllt y DVLA, Abertawe

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i gynorthwyo'r DVLA wrth reoli effaith COVID-19 yn y gweithle. 

Mewn cyfarfod rheoli achos amlasiantaeth a gynhaliwyd ddydd Mercher 24 Chwefror, datganwyd bod yr achos presennol drosodd.

Ers 1 Medi 2020, mae cyfanswm o 560 o achosion o COVID-19 wedi'u nodi ymhlith cyflogeion y DVLA. Cafodd achos yng Nghanolfan Gyswllt Bro Abertawe'r DVLA ei ddatgan ar 21 Rhagfyr 2020 ac ers 1 Rhagfyr 2020 mae 96 o achosion wedi'u nodi ymhlith cyflogeion sydd fel arfer yn gweithio yn yr adeilad hwnnw.

Dywedodd Siôn Lingard, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae pob asiantaeth wedi bod yn cydweithio'n agos â'r DVLA i leihau nifer yr achosion yn y gweithlu hwn. 

“Ni fu unrhyw achosion cysylltiedig ymhlith staff y Ganolfan Gyswllt yn y 28 diwrnod diwethaf, ac o ganlyniad gallwn gadarnhau bod y penderfyniad wedi'i wneud i ddatgan bod yr achos drosodd. 

“Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a bydd y Tîm Rheoli Digwyddiad amlasiantaeth yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd a chysylltu â'r DVLA.

“Gall gweithwyr mewn unrhyw weithle fod mewn perygl o haint mewn lleoliadau cymdeithasol neu gartrefi ac felly rydym yn atgoffa aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru bod gan bawb, o dan haen 4 o ymateb haenog Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws, rôl hanfodol o ran atal lledaeniad Coronafeirws. Gallant wneud hyn drwy ddilyn canllawiau i gadw pellter cymdeithasol bob amser, golchi dwylo'n rheolaidd, a chadw at y cyfyngiadau newydd.

“Os byddwch chi neu aelod o'ch cartref yn datblygu peswch, twymyn neu newid o ran blas neu arogl, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu fynd i www.gov.uk/get-coronavirus-test.

“Wrth i ni gyd weithio i barhau i ostwng nifer yr achosion COVID yn gyffredinol a llacio cyfyngiadau mae'n bwysig ein bod yn nodi cynifer o achosion â phosibl i roi cyngor a chymorth er mwyn lleihau trosglwyddo. Felly mae Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynnig o brofion COVID i'r rhai sy'n byw yn eu hardaloedd. Yma mae'n cael ei ymestyn i'r rhai sydd â salwch tebyg i'r ffliw, mae hyn yn cynnwys pen tost, poenau yn y cyhyrau, blinder, dolur gwddf a thisian. Gall y cyhoedd gael gafael ar brofion yn yr un modd ag y byddent fel arfer.

“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd, po fwyaf o bobl rydych yn cymysgu â nhw, y mwyaf yw'r risg o drosglwyddo a chael Coronafeirws.