Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar achosion o glefyd meningococol, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yr Eglwys yng Nghymru, Caerdydd

Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gynnig gwrthfiotigau a brechlynnau i ddisgyblion ym mlynyddoedd 12 ac 13 yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd. Mae hyn ar ôl i ddau fyfyriwr o'r ysgol fynd yn sâl gyda llid yr ymennydd, a achosir gan y bacteria meningococol Grŵp B.

Mae cysylltiadau agos y myfyrwyr wedi'u nodi ac maent eisoes wedi cael gwrthfiotigau i atal y bacteria rhag lledaenu. Mae'r penderfyniad i gynnig gwrthfiotigau i bob disgybl ym mlynyddoedd 12 ac 13 yn seiliedig ar ganllawiau iechyd cyhoeddus safonol ar gyfer ysgolion ac nid oes brigiad wedi'i ddatgan.

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Mae bacteria meningococol yn cael eu cario yng nghefn y gwddf mewn tua un o bob deg o bobl ar unrhyw adeg, ond yn anaml iawn y maent yn achosi salwch. Nid yw'r bacteria'n lledaenu'n hawdd. Mae pobl sydd wedi cael cysylltiad hir, agos â'r achosion yn wynebu risg ychydig bach yn uwch o fynd yn sâl.”

Nid oes rheswm i newid trefn yr ysgol nac i blant gael eu cadw gartref.

Er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu nodi a'u trin yn brydlon, mae'n bwysig bod rhieni a disgyblion yn ymwybodol o arwyddion a symptomau clefyd meningococol, a all gynnwys cur pen, twymyn, teimlo'n gysglyd, chwydu, gwddf anystwyth ac o bosibl brech lliw coch nad yw'n troi'n wyn pan bwysir arni â gwydr. Mae'n bwysig gofyn am gyngor meddygol yn gyflym os ydych yn pryderu gan y gall y symptomau waethygu'n gyflym.

Mae'r achosion yn cael eu rheoli'n briodol yn yr ysbyty. Ni fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhyddhau enwau cleifion a gofynnwn i breifatrwydd yr unigolion dan sylw gael ei barchu.

Bydd nifer bach o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gyfun Radur sy'n mynychu rhai gwersi yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn cael cynnig gwrthfiotigau a brechlynnau hefyd.  Mae'r disgyblion a'r rhieni dan sylw i gyd wedi cael gwybod.

Ceir rhagor o wybodaeth am lid yr ymennydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn: 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Gellir cael cyngor dros y ffôn gan Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd, sydd â llinell gymorth radffon 24 awr ar 0808 800 3344, neu gan linell gymorth radffon 24 awr Meningitis Now ar 0800 028 1828/ 0808 8010388.