Neidio i'r prif gynnwy

Chwefror 2022: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddyd: 4 Mawrth 2022

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Dyma'r canfyddiadau allweddol o arolwg mis Chwefror:

  • Dywedodd 38 y cant o bobl ‘nad oeddent yn bryderus o gwbl’ am ddal coronafeirws; i fyny o 30 y cant ym mis Ionawr 2022.
  • Dywedodd 50 y cant o bobl ‘nad oeddent yn bryderus o gwbl’ am golli un o'u hanwyliaid i'r feirws; i fyny o 38 y cant ym mis Ionawr 2022.  
  • Roedd 76 y cant o bobl yn cytuno eu bod yn teimlo ymdeimlad cryf o reolaeth dros eu bywyd.

Fodd bynnag, roedd 12 y cant yn anghytuno ac nid oedd y gweddill yn cytuno nac yn anghytuno.  
Yn ogystal, gofynnwyd i gyfranogwyr y mis hwn pa mor hapus yr oeddent gydag amrywiaeth o agweddau ar fywyd yng Nghymru. Mae bod yn hapus yn cyfeirio at sgoriau o 7 - 10 ar raddfa o 0 (ddim yn hapus o gwbl) i 10 (hollol hapus).

  • Roedd 78 y cant o bobl yn hapus gyda'u bywyd yn gyffredinol.
  • Roedd 69 y cant o bobl yn hapus gyda'r GIG yn gyffredinol.
  • Roedd 66 y cant o bobl yn hapus gyda'r ardal yr oeddent yn byw ynddi.
  • Roedd 43 y cant o bobl yn hapus gyda rheoli troseddau.
  • Roedd 34 y cant o bobl yn hapus gydag economi Cymru.
  • Roedd 31 y cant o bobl yn hapus gyda'r cyfleoedd i blant sy'n tyfu i fyny yng Nghymru.


Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu 7 – 28 Chwefror 2022, pan gafodd 1004 o bobl eu holi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal cyfweliadau â miloedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 26,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.