Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau'r arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2020

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dyma'r canfyddiadau allweddol: 
•    dywedodd 66% o bobl eu bod yn bwriadu naill ai cael ymwelwyr i'w cartref neu ymweld â chartrefi pobl eraill dros gyfnod y Nadolig (23-27 Rhagfyr).
•    dywedodd 45% o bobl eu bod yn bwriadu ffurfio swigen Nadolig.
•    mae 53% o bobl yn meddwl bod y newidiadau sy'n cael eu gwneud i gyfyngiadau dros y Nadolig yn iawn fwy neu lai; byddai'n well gan 31% gyfyngiadau llymach a byddai'n well gan 15% mwy o lacio o ran cyfyngiadau.  
•    dywedodd 39% o bobl eu bod yn dilyn y cyfyngiadau ‘yn llwyr’ (i lawr o 47% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg), a nododd 50% arall eu bod yn cydymffurfio â mwyafrif y rheoliadau*.
•    mae 52% o bobl wedi bod yn poeni ‘ychydig’ neu ‘lawer’ am eu hiechyd meddwl a'u llesiant (i lawr o 60% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg).
•    dywedodd 68% o bobl y byddent am gael brechiad coronafeirws pe bai un ar gael. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 30 Tachwedd – 6 Rhagfyr, pan gafodd 600 o bobl eu holi.

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yma:

Sut ydym ni yng Nghymru? Arolwg Wythnos 35 (30 Tachwedd tan 6 Rhagfyr 2020)

 
*Cydymffurfio â mwyafrif y rheoliadau - sgoriau o 8 neu 9 ar raddfa o 1 i 10, lle mae 1 yn ddim o gwbl a 10 yn llwyr o ran dilyn y rheoliadau