Neidio i'r prif gynnwy

Bydd buddsoddiad yn cyflymu profion Covid-19 ac yn cyflwyno labordai 24/7

Bydd gwasanaeth labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei drawsnewid gan gynyddu'n sylweddol ei gapasiti i gynnal profion COVID-19, cyflymu amseroedd cwblhau profion a galluogi labordai rhanbarthol i weithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae'r newidiadau'n bosibl o ganlyniad i fuddsoddiad gwerth bron £32m gan Lywodraeth Cymru, fel y cyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Bydd newidiadau i'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • Staff ac offer ychwanegol ar gyfer labordai rhanbarthol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn labordai profi Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, Ysbyty Treforys, Abertawe ac Ysbyty Glan Clwyd, y Rhyl, fel y gallant weithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
  • Creu chwe Labordy Brys mewn ysbytai ledled Cymru, a fydd yn cynnwys offer profi cyflym, o dan bedair awr, ac offer profi newydd ar gyfer cyflyrau eraill i ryddhau staff i weithio ar brofion COVID-19. Byddant yn gweithredu o 08.00 – 22.00 saith diwrnod yr wythnos.

Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

“Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gennym y capasiti yng Nghymru i gyflwyno ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu i gadw coronafeirws dan reolaeth a bod yn barod ar gyfer y gaeaf.

“Rwy'n gobeithio na fydd angen i ni ddefnyddio'r holl gapasiti profi y bydd y buddsoddiad hwn yn ei greu ond rhaid i ni fod yn barod. Mae'r wyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd y feirws yn lledaenu'n gyflymach yn y misoedd oerach, gwlypach felly gallwn ddisgwyl cynnydd yn y lledaeniad yn ddiweddarach eleni.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella'n cydnerthedd ac yn sicrhau bod ein trefniadau profi ac olrhain cysylltiadau yn ddigon cadarn i ymdopi â beth bynnag a ddaw dros y gaeaf.”

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i wneud rhai newidiadau sylfaenol i'n gwasanaethau labordy a fydd yn cynyddu eu gallu a'u cadernid yn sylweddol, o ran cyd-destun y pandemig presennol ac yn yr hirdymor. 

“Rydym eisoes yn gweithio y tu ôl i'r llenni i roi'r newidiadau hyn ar waith ac i recriwtio staff i'r rolau newydd a wnaed yn bosibl gan y buddsoddiad hwn.”

Er mai pandemig COVID-19 yw'r flaenoriaeth ar hyn o bryd, bydd y newidiadau yn gwella amseroedd cwblhau ar gyfer profion eraill lle mae amser yn hollbwysig gan gynnwys sepsis, heintiau ymwrthedd gwrthficrobaidd fel MRSA a heintiau gastroberfeddol fel C.difficile a Norafeirws.   

Caiff hyd at 160 o swyddi newydd eu creu ar draws y gwasanaeth o ganlyniad i'r newidiadau, y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch recriwtio i'w llenwi.

Cliciwch yma i chwilio pob swydd wag.

Dywedodd David Heyburn, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Microbioleg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Rydym yn cyflogi tua 450 o bobl ar hyn o bryd a chyda'r swyddi newydd hyn rydym yn disgwyl y bydd dros 600 o bobl yn gweithio i ni. 

“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu gwasanaeth heintiau cenedlaethol a fydd yn destun eiddigedd llawer o wledydd.”