Cyhoeddwyd: 15 Tachwedd 2022
Mae angen mynediad haws a chyflymach at gymorth iechyd meddwl a llesiant, a help gyda chostau ynni, tai a bwyd ar frys i ddiogelu iechyd ac achub bywydau, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r adroddiad newydd am yr argyfwng costau byw yn manylu ar sut y mae methu fforddio'r hanfodion, fel bwyd, taliadau rhent neu forgais, gwres a dŵr poeth, neu gludiant, yn arwain at effeithiau sylweddol ac eang negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd o 69 y cant o ran y bobl sy'n profi ansicrwydd bwyd yng Nghymru, a chynnydd o 50 y cant o ran y bobl sydd ar ei hôl hi wrth dalu biliau.
Mae un o argymhellion yr adroddiad yn ymwneud â chynlluniau i fanteisio i'r eithaf ar incwm. Er enghraifft, mewn cynllun peilot diweddar yng Nghwm Taf Morgannwg, gwelwyd dros 1,200 o bobl ifanc yn cael cyngor i fanteisio i'r eithaf ar eu hincwm a theimlo'n fwy hyderus am ddelio ag arian.
Nododd 57 y cant eu bod yn teimlo llai o straen ac yn llai pryderus am eu problemau ariannol, ac roedd 70 y cant yn teimlo'n fwy hyderus wrth ymdrin â phryderon ariannol. Dywedodd dros chwarter eu bod wedi dysgu i reoli eu cyllid o ddydd i ddydd yn well.
Meddai Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r argyfwng costau byw yn fwy na gwasgfa economaidd dros dro. Mae’n fater iechyd cyhoeddus brys a fydd yn cael effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru yn awr ac i'r dyfodol.
“Mae angen ymateb iechyd cyhoeddus ar draws y system ar frys, i liniaru effeithiau uniongyrchol yr argyfwng costau byw ac i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd a achosir gan dlodi i greu Cymru iachach a mwy cyfartal yn yr hirdymor. Mae angen i bob corff cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau eraill weithio'n agos gyda'i gilydd i gefnogi a diogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
“Mae'r adroddiad hwn yn darparu fframwaith ar gyfer yr ymateb hwn.”
Mae tlodi eisoes yn fater hirsefydlog yng Nghymru. Dros y degawd diwethaf, mae bron chwarter y boblogaeth wedi bod yn byw mewn tlodi. Yn 2020, roedd yn 23 y cant, gyda bron un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi (31 y cant). Oherwydd bod gan Gymru lefelau uwch o dlodi eisoes o gymharu â gweddill y DU, mae ei phoblogaeth yn debygol o gael ei heffeithio'n waeth gan yr argyfwng costau byw.
Ym mis Gorffennaf 2022, roedd 30 y cant o bobl yng Nghymru yn nodi bod eu sefyllfa ariannol bresennol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol a nododd mwy na 43 y cant effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Wrth i'r argyfwng ddyfnhau bydd yn effeithio ar bob amod byw a gweithio ac yn effeithio ar bawb yng Nghymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru eisoes wedi gweld effeithiau'r argyfwng costau byw, gan gynnwys:
Gall yr effeithiau iechyd a llesiant hyn ymestyn drwy gydol bywydau pobl a throsglwyddo ar draws cenedlaethau. Mae hyn yn creu her hirdymor i'r systemau a'r gwasanaethau yng Nghymru sydd eu hangen i'w cefnogi.
Meddai Manon Roberts, Uwch Swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae gan ffocws ar anghydraddoldebau iechyd wrth lunio polisïau y potensial i sicrhau manteision hanfodol yn y tymor hwy yn ogystal ag yn yr argyfwng presennol. Mae gwneud cynnydd yn cynnwys meddwl a chynllunio ar gyfer yr hirdymor a throi'r dystiolaeth ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn ymarfer.
“Mae cyflawni hyn yn golygu ailfeddwl y dull o wneud penderfyniadau mewn meysydd polisi sy'n llunio'r blociau adeiladu ar gyfer bywyd iach, fel cyflogaeth, addysg, incwm, tai, yr amgylchedd a ffactorau cymunedol. Mae’r adroddiad hefyd yn ei gwneud yn glir mai rhoi'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn ddylai fod y brif flaenoriaeth, gan sicrhau bod eu hanghenion a'u hawliau'n cael eu bodloni, gan gydnabod y gall anfantais ddechrau cyn geni a chronni gydol oes.”
Mae ‘Argyfwng costau byw; lens iechyd cyhoeddus’ yn nodi camau gweithredu i wneuthurwyr polisi a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddiogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant pobl yng Nghymru yn eu hymateb i'r argyfwng costau byw.