Neidio i'r prif gynnwy

Amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) bellach yw'r amrywiolyn mwyaf cyffredin o achosion newydd yng Nghymru wrth i'r niferoedd godi i 315

Cyhoeddwyd: 14 Mehefin 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau heddiw bod nifer yr amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) wedi cynyddu i 315.  Mae hyn yn gynnydd o 131 achosion ers y diweddariad diwethaf a roddwyd ar 10 Mehefin.  Yr amrywiolyn hwn bellach yw'r straen amlycaf o achosion newydd o'r Coronafeirws yng Nghymru. Disgwylir i nifer yr achosion godi ymhellach dros yr wythnosau nesaf.

Mae trosglwyddo'r amrywiolyn yn lleol yn y gymuned yn amlwg, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r achosion newydd yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Meddai Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r Coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol, ond yn un rydym wedi'i ragweld, gan ein bod yn gwybod bod amrywiolyn Delta yn haws i'w ddal na'r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef Alffa.  Credir bod mwy o gymysgu yn cyfrannu at drosglwyddo ac rydym yn pryderu am y cynnydd hwn mewn achosion.

“Mae llawer y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain ac eraill.  Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos felly mae'n bwysig derbyn y cynnig i gael y ddau frechlyn.

“Drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb gallwn gadw ein hunain a'n ffrindiau a'n teulu'n ddiogel.

“Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau, rhaid i chi hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.”

Mae Cwestiynau ac Atebion ar Amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cwestiynau Cyffredin: amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) o'r Coronafeirws - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru))

Mae mwyafrif yr achosion Delta yng Nghymru wedi'u canolbwyntio ar glwstwr o achosion yng Ngogledd Cymru a chlwstwr o achosion yn Ne Cymru ond rydym hefyd yn dechrau gweld achosion heb gysylltiad yn yr ardaloedd hyn ac mewn mannau eraill yng Nghymru.

Nodir nifer yr achosion o'r amrywiolyn yng Nghymru ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am 12pm ar ddydd Llun a dydd Iau. 

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd am amrywiolion fesul bwrdd iechyd ar hyn o bryd, ond gall gadarnhau bod y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yng Nghymru wedi rhoi gwybod am achosion.  Fel rhan o welliannau i'n gwyliadwriaeth, rydym yn ystyried adrodd fesul ardal bwrdd iechyd fel rhan o adroddiadau rheolaidd ar ein dangosfwrdd gwyliadwriaeth.