Gellir cael mynediad at adnoddau hyfforddi nawr, i wella gwybodaeth am egwyddorion brechu ac imiwneiddio craidd.
Mae Public Health England yn arwain yn y gwaith o ddatblygu deunyddiau hyfforddi ar imiwneiddio rhag COVID-19. Bydd y rhain yn cynnwys modiwl e-ddysgu COVID-19, a fydd yn cynnwys adran wybodaeth graidd ac adrannau penodol i frechlynnau, cyfres o sleidiau hyfforddi gynhwysfawr a fframwaith cymhwysedd clinigol. Unwaith y bydd yr adnoddau hyfforddi hyn wedi cael eu hawdurdodi byddant ar gael i'w defnyddio yng Nghymru.
Mae modiwl hyfforddiant imiwneiddio yn bodoli eisoes y cyfeirir ato weithiau fel y rhaglen ddeuddydd. Mae'n seiliedig ar y safonau hyfforddiant imiwneiddio cenedlaethol. Mae'r modiwl hwn ar gael nawr yn rhad ac am ddim. Mae'n darparu’r wybodaeth graidd ac egwyddorion imiwneiddio a brechu cyffredinol, megis storio brechlynnau, rhoi brechlyn, materion cyfreithiol, ac ati. Gall defnyddwyr hunan-gofrestru trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan: https://www.e-lfh.org.uk/programmes/immunisation/. Ar ôl cwblhau modiwl, er enghraifft storio brechlynnau, gellir argraffu tystysgrif. Ni fydd cwblhau'r modiwlau hyn yn disodli hyfforddiant imiwneiddio rhag COVID-19. Mae'n ofynnol i bob unigolyn a fydd yn imiwneiddio a/neu'n darparu cyngor imiwneiddio ynghylch brechlyn(au) COVID-19 gwblhau'r modiwl e-ddysgu COVID-19. Bydd gofyn i’r sawl sy'n rhoi brechlyn am y tro cyntaf neu staff sy'n dychwelyd gwblhau asesiad cymhwysedd clinigol gyda goruchwyliwr.
Ymwelwch ag http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/70069 Dyma dudalen ryngrwyd e-ddysgu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd dolen uniongyrchol i fodiwl e-ddysgu COVID-19 yn cael ei huwchlwytho yma, pan fydd ar gael.
Hyfforddiant statudol/gorfodol:
Argymhellir y dylai’r sawl sy’n rhoi brechlyn gwblhau hyfforddiant mewn cynnal bywyd sylfaenol ac anaffylacsis hefyd. Mae hefyd yn bwysig bod staff yn ymwybodol o weithdrefnau atal a rheoli heintiau, gan gynnwys gwybodaeth am wisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol (PPE).
Mae'r modiwlau ar-lein canlynol ar gael:
Mae’r modiwlau hyn ar gael trwy dudalen we Cofnod Staff Electronig (ESR) Gall holl staff GIG Cymru gael mynediad i e-ddysgu trwy ESR. Os nad oes gennych chi gyfrif, neu os yw’ch cyfrif wedi’i gloi, neu os oes angen i chi ailosod eich cyfrinair, cysylltwch ag arweinydd ESR eich sefydliad. Cliciwch yma ar gyfer canllaw cychwyn cyflym i e-ddysgu trwy ESR. Ar gyfer yr unigolion hynny nad oes ganddynt fynediad at ESR e.e. Meddygon Teulu/staff gofal sylfaenol, gellir cael mynediad i’r modiwlau ar safle Learning@Wales. Os nad oes gennych gyfrif, cysylltwch ag elearning@wales.nhs.uk a chaiff enw defnyddiwr a chyfrinair eu creu i chi. Bydd gofyn i chi fewnbynnu allwedd cofrestru pan fyddwch yn cyrchu’r e-ddysgu ar wefan Learning@Wales :
Sefydliad |
Allwedd cofrestru |
Practis Meddygon Teulu/Gofal sylfaenol |
Cod Practis Meddyg Teulu a ! e.e. W92025! |
Fferyllfa |
Pharm25% |
Ymatebwyr cyntaf |
1stRes17% |
Trydydd sector/arall |
Third75% |