Neidio i'r prif gynnwy

A yw gweithio gartref yn dda i'ch iechyd?

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2022

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi er y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi parhau i weithio gartref, roedd bron hanner y rhai a holwyd hefyd wedi nodi llesiant gwaeth a theimladau o unigrwydd.  

Gwnaeth yr arolwg, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021 yn ystod ail don pandemig y Coronafeirws, holi oedolion mewn cyflogaeth yng Nghymru a allent weithio gartref ac effaith gweithio gartref ar eu hiechyd a'u llesiant.  

Gofynnodd yr arolwg i'r ymatebwyr ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Roedd tri o bob pump o ymatebwyr eisiau treulio o leiaf rhywfaint neu'r cyfan o'u hwythnos waith yn gweithio gartref. Roedd un o bob pump am osgoi gweithio gartref yn gyfan gwbl. 

O'r rhai a allai weithio gartref yn ystod y pandemig, nododd bron hanner ohonynt lesiant meddyliol gwaeth (45 y cant) a mwy o deimladau o unigrwydd (48 y cant).  

Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o roi gwybod am yr effeithiau hyn roedd:  

  • Gweithwyr iau yn eu 30au 
  • Menywod 
  • Y rhai a oedd yn byw ar eu pen eu hunain  
  • Y rhai â llesiant meddwl gwaeth 
  • Y rhai sy'n byw gyda chyflyrau cyfyngol sy'n bodoli eisoes  

Roedd effeithiau gweithio gartref ar ddeiet ac ymarfer corff yn fwy cymysg. Er bod pedwar o bob 10 wedi nodi gostyngiad yn eu lefelau ymarfer corff, nododd tri o bob 10 welliant. Yn yr un modd, nododd tua un o bob tri ddeiet gwaeth, er bod un o bob pedwar wedi nodi gwelliant. 

Mae'r canfyddiadau yn ein hatgoffa efallai nad yw'r cyfle i weithio gartref yn hygyrch i bawb. Roedd dynion, y rhai oedd yn byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, y rhai mewn cyflogaeth dros dro a'r rhai ag iechyd meddwl a chorfforol gwaeth i gyd yn llai tebygol o nodi eu bod yn gallu gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn. 

Meddai Melda Lois Griffiths, Uwch-swyddog Ymchwil Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Roedd ein harolwg yng Nghymru wedi cofnodi barn y rhai a oedd yn gallu gweithio gartref ar un adeg yn ystod y pandemig. Er bod ein canfyddiadau'n cyd-fynd ag astudiaethau cenedlaethol eraill, mae'n anodd gwahanu effeithiau gweithio gartref oddi wrth effaith cyfyngiadau o ran cysylltiadau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn. Gall myfyrio ar y ffyrdd y mae gweithio gartref wedi effeithio ar iechyd yn ystod y pandemig helpu i lywio dulliau o gadw'n iach wrth i ni addasu i ffyrdd newydd o weithio wrth symud ymlaen.” 

Meddai'r Athro Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru 

“Er i rai nodi effaith negyddol ar iechyd wrth weithio gartref yn ystod y pandemig, i raddau helaeth roedd pobl am barhau i weithio o bell i ryw raddau yn y dyfodol. Mae astudiaethau eraill wedi dangos, ymhlith y rhai sy'n parhau i weithio gartref, mae unigrwydd wedi gwella ond mae lefelau trallod seicolegol yn parhau ychydig yn uwch. Mae cefnogi cyflogwyr a gweithwyr i wireddu manteision gweithio gartref ochr yn ochr â lleihau'r niwed posibl – yn benodol i iechyd meddwl, yn bwysig.” 

Meddai Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac arweinydd rhaglenni iechyd a gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae'r canfyddiadau hyn yn ailadrodd yr hyn y mae cyflogwyr yn ei ddweud wrthym o ddydd i ddydd. Maent yn cydnabod y manteision a gyflwynwyd yn sgil ffyrdd mwy hyblyg o weithio dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, ond maent hefyd yn cydnabod bod anfanteision i weithio o bell sydd angen eu hystyried a'u trin yn ofalus.  Roedd ymchwil cyflogwyr a gynhaliwyd gennym ar anterth y pandemig wedi tynnu sylw at bryderon mawr ynghylch llesiant meddwl gweithwyr, ochr yn ochr â chanfyddiadau rheolwyr ynghylch effaith ymddygiad llonydd, bwyta afiach ac yfed alcohol ar iechyd corfforol. Rydym yn parhau i weithio gyda chyflogwyr yng Nghymru i'w cynorthwyo i gefnogi eu gweithlu ym mhob agwedd ar iechyd a llesiant.” 

Mae'r rhaglen Cymru Iach ar Waith, a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn annog ac yn arwain cyflogwyr i weithredu arferion gwaith iach a diogel, a hyrwyddo iechyd a llesiant da, beth bynnag fo'r sector, diwydiant, neu leoliad gwaith.  Mae llawer o enghreifftiau o ddeiliaid gwobrau Cymru Iach ar Waith yn parhau i gefnogi ffyrdd hyblyg o weithio a sefydlwyd yn ystod y pandemig tra hefyd yn rhoi cymorth i weithwyr ofalu am eu hiechyd a'u llesiant meddyliol a chorfforol.  Mae tudalennau gwe Cymru Iach ar Waith yn cynnwys canllawiau ar lu o faterion sy'n effeithio ar iechyd a llesiant staff, yn ogystal ag astudiaethau achosion cyflogwyr a thîm o Gynghorwyr sy'n rhoi cymorth am ddim i sefydliadau. 

Mae modelau gweithio gartref a hybrid yn parhau yma yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi uchelgais hirdymor i 30 y cant o'r gweithlu fod yn gweithio o bell yn rheolaidd wrth symud ymlaen, fel rhan o'u hymdrechion i annog cyflogaeth decach a mwy cynaliadwy.