Neidio i'r prif gynnwy

81 o achosion newydd o amrywiolyn Delta ers 3 Mehefin, wrth i drosglwyddo lleol yn y gymuned ddigwydd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol a derbyn y cynnig i gael brechlyn yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) o'r Coronafeirws.

Erbyn hyn, cyfanswm nifer yr achosion o'r amrywiolyn yng Nghymru yw 178 - cynnydd o 81 o achosion ers 3 Mehefin. 

Mae'r sefydliad yn rhybuddio'r cyhoedd y gallai Cymru fod yn dechrau profi trosglwyddo'r amrywiolyn yn lleol yn y gymuned yn araf, gyda thystiolaeth gynyddol o achosion heb hanes teithio.

Mae mwyafrif yr achosion Delta yng Nghymru wedi'u canolbwyntio ar glwstwr o achosion yng Ngogledd Cymru a chlwstwr o achosion yn Ne Cymru ond rydym hefyd yn dechrau gweld achosion heb gysylltiad yn yr ardaloedd hyn ac mewn mannau eraill yng Nghymru.

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod amrywiolyn Delta yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn amlycaf yn flaenorol, sef amrywiolyn Alffa (neu Gaint).  Fodd bynnag, gall y cynnydd hefyd fod yn cael ei ysgogi gan fwy o gymysgu cymdeithasol sy'n rhoi mwy o gyfleoedd i drosglwyddo.

Meddai Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r Coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym wedi dweud yn flaenorol ein bod yn disgwyl i nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru gynyddu, ond mae'n destun pryder serch hynny i weld y cynnydd hwn. 

“Mae'n debygol bod y cynnydd yn cael ei ysgogi'n rhannol gan natur drosglwyddadwy'r amrywiolyn, a gwyddom ei fod yn haws i'w ddal na'r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef Alffa.  Fodd bynnag, mae mwy o gymysgu hefyd yn cyfrannu at drosglwyddo, a gall hyn fod yn chwarae rhan hefyd.

“Mae lledaeniad amrywiolyn Delta yng Nghymru yn ein hatgoffa na ddylem fod yn hunanfodlon, hyd yn oed wrth i gyfraddau Coronafeirws barhau'n isel ledled Cymru. 

“Gallwch amddiffyn eich hun ac eraill drwy dderbyn y cynnig i gael brechlyn, cadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a thrwy wisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Cadwch fannau dan do wedi'u hawyru'n dda.

“Dylech hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.”

Y dystiolaeth ddiweddaraf yw bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.

Nodir nifer yr achosion o'r amrywiolyn yng Nghymru ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am 12pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau. 

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd am amrywiolion fesul bwrdd iechyd ar hyn o bryd, ond gall gadarnhau bod y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yng Nghymru wedi rhoi gwybod am achosion.  Fel rhan o’n gwelliannau i'n gwyliadwriaeth, rydym yn ystyried adrodd fesul ardal bwrdd iechyd fel rhan o'n hadroddiadau rheolaidd ar ein dangosfwrdd gwyliadwriaeth.