Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant a Digwyddiadau

rgeHyfforddiant a Digwyddiadau ym Maes Diogelu

Mae manylion digwyddiadau Hyfforddi a Datblygu ym maes Diogelu a gynhelir yng Nghymru yn bennaf ond hefyd ledled y DU ar gael o’n cronfa ddata, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd. Gall defnyddwyr chwilio am ddigwyddiadau yn ôl categori, lleoliad, dyddiad a lefel.
 
Gweld y gronfa ddata Hyfforddiant a Digwyddiadau - (Saesneg yn unig)

Digwyddiadau Blaenorol

Cyflwyniadau y gellir eu lawrlwytho a fideos o gynadleddau blaenorol a gynhaliwyd gan y Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru).
 
Gweld cyflwyniadau / fideos o ddigwyddiadau blaenorol 

Canllawiau Hyfforddi

Diogelu Plant: Rôl a Chymwyseddau Staff Gofal Iechyd
 
Mae fersiwn ddiweddaraf Safeguarding children and young people: roles and competences for health care staff: Intercollegiate Document (Mawrth 2014) yn datgan bod rhaid i bob aelod staff ym maes iechyd fod â’r cymwyseddau sydd eu hangen er mwyn adnabod camdriniaeth plant a chymryd camau effeithiol fel sy’n briodol i’w swydd.
 
Rhaid hefyd i staff iechyd ddeall eu cyfrifoldebau’n glir, a dylai’r sefydliad sy’n eu cyflogi eu cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau.
 
Yn ystod y broses adolygu, cafwyd nifer fawr o awgrymiadau gan amrywiaeth eang o grwpiau proffesiynol. Cafodd y Fframwaith ei fireinio a’r ddogfen ei hailstrwythuro yn sgil y sylwadau.

Looked After Children: knowledge, skills and competences of Health care staff.  Intercollegiate Role Framework.  Mawrth 2015: Intercollegiate Role Framework

Adnoddau

E-ddysgu ym Maes Diogelu
Mae modiwlau e-ddysgu ar gael drwy wefan Learning@NHSWales
 
Mae’r modiwlau’n cynnwys:

  • Diogelu Plant, Lefel 1 a Lefel 2
  • Diogelu Oedolion, Lefel 1 a Lefel 2
  • Grŵp Craidd 1 Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, Lefel 1 a Lefel 2
  • Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

 
Atal Anafiadau Pen Nad Ydynt yn Ddamweiniol (NAHI) - Cynhadledd Fideo'r Ymgyrch (Fideo Ynghylch Babanod a Gafodd eu Hysgwyd

 
DVD 'Just Talk' Haen 1: Fideo Hyfforddi ar Ddiogelu
Mae’r Gwasanaeth Diogelu Plant wedi diweddaru DVD ‘Just Talk’ Haen 1, sydd ar gael i bob aelod staff ym maes iechyd. Mae wedi’i anelu’n bennaf at staff y mae angen hyfforddiant diogelu plant lefel 1 arnynt.
 
Gweld y Fideo Hyfforddi ar Ddiogelu Plant: DVD ‘Just Talk’ Haen 1 
 
Fideos DVD 'Just Talk' Haen 2
Mae’r Gwasanaeth Diogelu Plant wedi llunio DVD ‘Just Talk’ Haen 2 sy’n cynnwys 4 fideo ynglŷn â phynciau penodol. Maent wedi’u hanelu’n bennaf at staff y mae angen hyfforddiant diogelu plant lefel 2 arnynt.
 
Caiff y fideos eu cyflwyno gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sydd â gwybodaeth arbenigol am y meysydd a ganlyn: anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu plant/pobl, salwch ffug neu salwch gwneud, a’r broses amddiffyn plant.
 
Gweld y Fideos Hyfforddi ar Ddiogelu Plant: ‘Just Talk’ Haen 2

Adnoddau Eraill

 

Os hoffech anfon unrhyw adborth am dudalennau’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), llenwch ein ffurflen adborth ar-lein.