Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu Oedolion

 

Mae diogelu oedolion yn ymwneud â diogelu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin/dioddef niwed (oedolyn mewn perygl) rhag dioddef camdriniaeth neu esgeulustod. 
 
Mae’n cynnwys mesurau i atal camdriniaeth ac i ddiogelu iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, a’u galluogi i fyw heb unrhyw niwed, camdriniaeth nac esgeulustod. 
 
Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le.  Gall ddigwydd gartref, mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, mewn addysg uwch, yn y gwaith neu ar y stryd. Gall fod yn fwriadol neu’n anfwriadol.
 
Mae’r person sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth fel arfer yn adnabod y person a gaiff ei gam-drin yn dda. Gallant fod yn:

  • Ofalwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr
  • Gweithiwr iechyd, gofal cymdeithasol neu weithiwr arall
  • Perthynas, ffrind neu gymydog
  • Preswylydd, claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth arall
  • Ymwelydd achlysurol neu rywun sy’n darparu gwasanaeth
  • Rhywun sy’n camfanteisio ar bobl agored i niwed yn fwriadol

 

Os hoffech anfon unrhyw adborth am dudalennau’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), llenwch ein ffurflen adborth ar-lein.