Neidio i'r prif gynnwy

Eich cadw'n ddiogel yn ystod eich apwyntiad sgrinio

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu am iechyd eich baban.

Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd. 

Siaradwch â’ch bydwraig am sut y bydd sgrinio yn digwydd yn eich Bwrdd Iechyd. Bydd yn esbonio beth maen nhw’n ei wneud i'ch cadw chi a'ch babi yn ddiogel.

 

Cofiwch, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu, peidiwch â mynd i gael eich sgrinio os ydych yn sâl.

Cysylltwch â’ch bydwraig os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad sgrinio cyn geni.

Rhagor o wybodaeth am sgrinio a’r gwahanol brofion.