Neidio i'r prif gynnwy

Colposgopi a Thriniaeth

Y Clinig Colposgopi

Mae colposgopi yn archwiliad sy’n edrych ar geg y groth yn fwy manwl.  Bydd prawf colposgopi yn aml yn cael ei wneud os bydd prawf sgrinio serfigol yn darganfod newidiadau i'ch celloedd a achosir gan HPV risg uchel.

Colposgopydd yw'r enw ar y sawl sy'n gwneud yr archwiliad a gall fod yn feddyg neu'n nyrs.

Maen nhw'n defnyddio colposgop, sy'n edrych fel ysbienddrych ar stand, gyda golau llachar.  Nid yw'r colposgop yn mynd y tu mewn i chi.

Bydd y colposgopydd yn rhoi ychydig o doddiant ar geg y groth, i ddangos unrhyw newidiadau. Gall hyn achosi ychydig o deimlad llosgi. 

Mae’n bosibl y bydd sampl bach o gelloedd o geg y groth yn cael eu tynnu i'w profi.  Biopsi yw’r enw ar hyn. 

Os byddwch chi’n cael biopsi, fel arfer fe'ch cynghorir i beidio â gwneud y canlynol am saith diwrnod:

  • Cael rhyw. 
  • Defnyddio tamponau.
  • Nofio.
  • Cael bath.

Bydd y colposgopydd yn eich ffonio neu'n ysgrifennu atoch gyda'r canlyniadau.   Bydd yn dweud wrthych os oes angen unrhyw driniaeth neu apwyntiadau ychwanegol arnoch.

Os na fydd angen i chi gael eich gweld eto, byddwch yn cael gwybod pryd y dylech gael eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein taflen Eich Apwyntiad yn y Clinig Colposgopi.

 

Triniaeth

Weithiau, mae angen trin newidiadau i’r celloedd i'w hatal rhag datblygu'n ganser ceg y groth.

Gelwir y newidiadau mwyaf cyffredin i’r celloedd yng ngheg y groth yn Neoplasia Mewnepithelaidd Serfigol (CIN). Mae'r rhain wedi'u graddio fel a ganlyn; CIN 1 (ysgafn), CIN 2 (cymedrol) neu CIN 3 (difrifol).

Mae’n bosibl y bydd gan rai pobl fath o newid i’r celloedd o'r enw Neoplasia Mewnepithelaidd Chwarennol Serfigol (CGIN). Nid yw hwn fel arfer yn cael ei raddio.

Nid oes angen triniaeth ar CIN 1 fel arfer, gan y bydd y newidiadau hyn fel arfer yn diflannu ar eu pennau eu hunain. Fel arfer, gallwch gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) dilynol yn eich practis meddygon teulu neu glinig iechyd rhywiol.

Bydd CIN 2, CIN 3 a CGIN fel arfer yn cael eu trin.

Byddwch yn cael gwybod am y mathau o driniaethau sydd ar gael a byddwch yn cael y cyfle i drafod pa un sydd orau i chi.

Fel arfer, ni fyddwch yn cael eich trin os ydych chi'n feichiog, ond mae'n dal yn bwysig eich bod chi'n mynd i’ch apwyntiadau clinig pan fyddwch chi’n cael eich cynghori i wneud hynny.

Dyma’r mathau o driniaeth sydd ar gael:

  • Tynnu’r ardal yr effeithir arni allan
    • Toriad Dolen Fawr o'r Ardal Drawsffurfio (LLETZ)
    • Biopsi Côn
  • Dinistrio'r celloedd sy’n cynnwys newidiadau
    • Gwresgeulo (a elwir weithiau yn oergeulo)
    • Triniaeth laser
    • Cyrocautery (rhewi)

Gellir cynnig triniaeth neu wyliadwriaeth (mae hyn yn golygu cael gwiriadau rheolaidd yn y clinig colposgopi) i unigolion 30 oed ac iau sydd â CIN 2. Mae hyn oherwydd bod y newidiadau i’r celloedd yn aml yn dychwelyd i normal ar eu pennau eu hunain. Os na fydd y newidiadau i’r celloedd yn gwella, neu os byddan nhw’n datblygu'n newid gradd uwch, bydd triniaeth yn cael ei chynnig.

Dylid cynnig triniaeth i unigolion dros 30 oed sydd â CIN 2.

Mae pawb sydd â CIN 3 a CGIN yn cael cynnig triniaeth.

Fel arfer, mae triniaethau yn cael eu rhoi yn y clinig colposgopi tra byddwch yn effro. Mae anesthetig lleol yn cael ei chwistrellu i geg y groth i'w gwneud yn ddideimlad.

Weithiau, bydd triniaeth yn cael ei rhoi o dan anesthetig cyffredinol, os bydd eich colposgopydd yn teimlo y byddai'r ardal yn anodd ei thrin tra byddwch yn effro.

Os byddwch yn cael triniaeth, fe'ch cynghorir i beidio â gwneud y canlynol:

  • Cael rhyw am fis
  • Defnyddio tamponau
  • Nofio
  • Cael bath.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen Eich Apwyntiad Colposgopi.

 

Beth fydd yn digwydd os caf ddiagnosis o ganser ceg y groth?

Mae cael diagnosis o unrhyw fath o ganser yn frawychus. Mae Ymddiriedolaeth Canser Serfigol Jo yn cynnig llawer o wybodaeth a chymorth.

Mae modd trin rhai canserau ceg y groth cynnar iawn yn y clinig colposgopi. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y colposgopydd yn argymell ymchwiliad pellach a bydd yn eich cyfeirio at arbenigwr canser.

Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn cael diagnosis o ganser ceg y groth, bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn edrych ar eich hanes sgrinio. Mae hyn yn golygu edrych ar: 

  • Unrhyw brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) a gawsoch yn y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis.
  • Unrhyw fiopsïau serfigol a gawsoch yn y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis.
  • Unrhyw apwyntiadau colposgopi yn y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis.
  • Unrhyw wahoddiadau, llythyrau neu ganlyniadau a anfonwyd atoch yn ystod y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis.

Os oes unrhyw ganlyniadau i ni eu hadolygu, byddwn yn rhoi gwybod i'r meddygon sy'n gofalu amdanoch pan fydd yr adolygiad wedi dod i ben.

Os hoffech wybod canlyniadau eich adolygiad, gallwch roi gwybod i ni. Byddwn yn trefnu cyfarfod i roi gwybod i chi am y canlyniadau ac i ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.

Os hoffech ragor o wybodaeth, efallai y bydd ein taflen 'Adolygiad o'ch hanes sgrinio serfigol' yn ddefnyddiol i chi.

Cwestiynau Cyffredin.