Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor gywir yw prawf sgrinio llygaid diabetig?

Prawf sgrinio llygaid diabetig yw'r ffordd orau o ddod o hyd i retinopathi yn gynnar.  Fodd bynnag, mae rhai newidiadau’n anodd iawn eu gweld.

Weithiau, ni allwn dynnu ffotograff clir o gefn eich llygaid.  Weithiau byddwn yn eich galw’n ôl am apwyntiad arall neu efallai y byddwn yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid er mwyn rhoi cynnig arall arni. 

Gall retinopathi diabetig ddatblygu ar unrhyw adeg.  Mae'n bwysig siarad â'ch optegydd neu gyda’ch practis meddygon teulu os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg, hyd yn oed os ydych wedi bod i gael prawf sgrinio llygaid diabetig yn ddiweddar.