• Prawf sgrinio llygaid diabetig yw'r ffordd orau o ddod o hyd i retinopathi. Nid yw sgrinio ar gyfer retinopathi diabetig 100% yn gywir. Ar adegau prin, gall sgrinio golli newidiadau. Gwneir popeth posibl i leihau pa mor aml y bydd hyn yn digwydd.
• Gall prawf sgrinio llygaid diabetig ddod o hyd i retinopathi yn gynnar ond nid yw'n ei atal rhag datblygu.
• Gall y diferion llygaid a ddefnyddir yn ystod y prawf sgrinio achosi teimlad ychydig yn anesmwyth am rai eiliadau. Bydd eich golwg yn aneglur am tua phedair i chwe awr. Yn anaml iawn, gall y diferion achosi sgîl-effeithiau eraill.
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch mynd i’ch prawf sgrinio llygaid diabetig, siaradwch â'ch meddyg neu gyda’ch tîm diabetes.
Gallwch optio allan o'r rhaglen sgrinio drwy gysylltu â ni. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis peidio â chael eich gwahodd. Os byddwch yn newid eich meddwl gallwch ailymuno â’r rhaglen sgrinio unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.