Neidio i'r prif gynnwy

A fydd prawf sgrinio llygaid diabetig yn fy atal rhag cael retinopathi diabetig?

Ni fydd prawf sgrinio llygaid diabetig yn eich atal rhag cael retinopathi.  Gall sgrinio ddod o hyd i newidiadau os ydynt yno eisoes.

Gall retinopathi diabetig ddatblygu ar unrhyw adeg.  Mae'n bwysig siarad â'ch optegydd neu’ch practis meddygon teulu os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg hyd yn oed os ydych wedi bod i gael prawf sgrinio llygaid diabetig yn ddiweddar.

Mae'n bwysig cadw'n iach, trwy reoli a thrin eich diabetes Ewch i Diabetes management | taking care of your diabetes | Diabetes UK neu siaradwch â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gael gwybodaeth bellach.