Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau retinopathi y gellir eu hatgyfeirio - wedi'u graddio fel R2 neu R3

Bydd eich llythyr yn dweud wrthych a oes gennych retinopathi.  Gelwir hyn yn retinopathi cyn-ymledol (R2) neu retinopathi ymledol (R3) a dylech gael eich gweld gan arbenigwr llygaid.   Mewn rhai achosion, mae angen triniaeth ar gyfer retinopathi diabetig.

Mae'n bwysig eich bod yn mynd i unrhyw apwyntiadau pellach.  Yna gellir monitro unrhyw newidiadau a'u hatgyfeirio am driniaeth mewn ysbyty os oes angen.

Cysylltwch â'ch meddyg os ydych yn poeni neu os oes gennych gwestiynau.

Dyma enghraifft o ddelwedd R2, sy'n dangos pibellau gwaed yn gollwng i'r llygad:
 

 

Dyma enghraifft o ddelwedd R3. Mae’n dangos gwaedu mawr yn y llygad.