Weithiau, nid yw'r delweddau'n ddigon clir a bydd angen i ni dynnu rhagor o ffotograffau. Byddwn yn anfon apwyntiad arall atoch. Neu efallai y byddwn yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid sy’n gallu defnyddio offer gwahanol i archwilio cefn eich llygad.
Mae nifer o resymau pam y gallai hyn ddigwydd. Nid yw'n golygu ein bod yn poeni am yr hyn rydym wedi'i weld.