Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor aml y byddaf yn cael gwahoddiad?

Bydd pawb sy'n 12 oed neu'n hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig am ddim bob blwyddyn i ddwy flynedd.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn amlach, yn dibynnu ar ganlyniadau eu hapwyntiad sgrinio diwethaf, neu os byddant yn beichiogi.

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio-llygaid-diabetig-cymru/ynglyn-a-sgrinio-llygaid-diabetig/eich-gwahoddiad/

Cysylltwch â'ch optegydd neu eich meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.