Neidio i'r prif gynnwy

Ffrydiau Gwaith

Trwy’r Gydweithredfa Gofal Diogel, mae Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd yn darparu hyfforddiant a chymorth wedi’u teilwra i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru i gyflymu ac optimeiddio prosiectau gwella presennol ar draws y ffrydiau gwaith gofal acíwt, gofal dydd a gofal cymunedol diogel ac effeithiol.

Mae’r gweithgarwch hwn wedi’i seilio ar ffrwd waith Arwain ar gyfer Gwella Diogelwch Cleifion sy’n cefnogi’r broses o fabwysiadu’r systemau dysgu sefydliadol, y diwylliant a’r amgylcheddau gweithio sy’n ofynnol er mwyn i welliant ffynnu.

Dysgwch fwy am bob un o’r ffrydiau gwaith isod.