Neidio i'r prif gynnwy

Timau

Mae gan y Gydweithredfa Gofal Diogel aelodaeth o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd ledled GIG Cymru. Mae’r timau o fewn y sefydliadau hynny sy’n cyflwyno gwelliannau drwy’r Y Gydweithredfa Gofal Diogel yn cynnwys:

Timau Gweithredol, gyda chefnogaeth Noddwyr Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion, sy’n sicrhau bod yr amodau a’r amgylchedd dysgu yn eu lle i hwyluso’r gwaith o gyflawni gwelliannau effeithiol drwy’r Y Gydweithredfa Gofal Diogel, yn seiliedig ar y Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol.

Hyfforddwyr Gwella sy’n gweithio'n agos gyda thimau prosiect gwella o fewn eu sefydliad i arwain eu gweithgarwch gwella drwy gydol oes y Y Gydweithredfa Gofal Diogel. 

Timau Prosiect Gwella sy'n cyflwyno'r gweithgarwch gwella o fewn gwasanaethau fel rhan o'r Y Gydweithredfa Gofal Diogel.

Mae timau’r Y Gydweithredfa Gofal Diogel hyn yn cael eu cefnogi’n uniongyrchol gan eu timau cynrychioliadol rhanbarthol o fewn Gwelliant Cymru, ochr yn ochr â’r hyfforddiant a chymorth wedi’u teilwra a ddarperir gan Gwelliant Cymru ac IHI o fewn ffrydiau gwaith y Y Gydweithredfa Gofal Diogel.