Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau

28/11/22
Sylfeini mewn Gwelliant

Cyflwyniad i egwyddorion gwelliant. Bydd y cwrs hwn yn disodli’r wobr IQT Efydd bresennol a bydd ar gael ar ystod o blatfformau yn union yr un fath â’r wobr Efydd.

28/11/22
Hanfodion Gwelliant

Mae’r cwrs undydd hwn a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn adeiladu ar egwyddorion gwelliant yn y cwrs rhagarweiniol Sylfeini mewn Gwelliant, gyda ffocws ar offer diagnostig i hwyluso dealltwriaeth o systemau, a phwysigrwydd defnyddio data dros gyfnod fel mesur rhannol ar gyfer gwelliant a rôl gwelliant parhaus.

Mae’r cwrs hwn yn helpu i bontio’r bwlch rhwng Sylfeini mewn Gwelliant ac ymgymryd â phrosiect fel rhan o Gwelliant ar Waith.

28/11/22
Gwelliant ar Waith

Mae’n ceisio eich galluogi i gwblhau prosiectau gwella, o osod nodau, defnyddio mesuriadau ar gyfer gwelliant a chwblhau profion newid.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 4 modiwl o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at weithredu prosiect gwella lleol. 

28/11/22
Anogwr Gwella

Mae’n ceisio datblygu staff i gefnogi timau gwella sy’n ymgymryd â phrosiectau i gymhwyso methodoleg gwella. Cyflwynir y cwrs 3 diwrnod hwn dros dri mis gyda chymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu rhithwir. 

28/11/22
Cynghorydd Gwella

Mae’r cwrs gwella lefel uwch hwn wedi’i gynllunio i gefnogi arweinwyr mewn sefydliadau i sicrhau bod gwelliant yn cael ei ddefnyddio tuag at flaenoriaethau sefydliadol a chefnogi rhaglenni cenedlaethol. 
Mae rhagor o fanylion am y cwrs hwn ar gael ar gais drwy e-bostio improvementcymruacademy@wales.nhs.uk

Cofrestrwch yma