Neidio i'r prif gynnwy

Gallu

Rydyn ni’n cydweithio â staff ar bob lefel ar draws ein partner sefydliadau ym maes iechyd a gofal i ddarparu’r wybodaeth, y sgiliau, a'r offer i’w helpu i wella’r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae o ran gwelliant parhaus ac rydyn ni’n darparu ystod o gyrsiau gwelliant o fewn ein "cyfres gwelliant".  

Mae’r cyrsiau hyn sydd wedi’u datblygu ar y cyd â rhai o’n partneriaid, yn galluogi pobl i gymhwyso methodoleg gwelliant fydd yn helpu i gefnogi staff i ymgymryd â phrojectau gwelliant a gwireddu canlyniadau drwy waith tîm effeithiol.

Mae cwrs gwelliant ar gyfer pob aelod o staff sy'n gweithio o fewn y maes iechyd a gofal, beth bynnag fo'i rôl, gradd a phroffesiwn. Mae hyn yn adlewyrchu’r egwyddor bod gwelliant go iawn a gwelliant cynaliadwy yn weithgaredd tîm. Gallwn adeiladu'r gallu ar gyfer Gwelliant fel sgil craidd ar draws y system gyfan, i hwyluso canlyniadau a phrofiad gwell i boblogaeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch improvementcymruacademy@wales.nhs.uk. Er mwyn archebu lle ar gwrs, cofiwch y bydd rhaid i chi lenwi’r ffurflen archebu a'i dychwelyd.