O ystyried y potensial sydd ar gyfer atal llawer o achosion o namau yn y tiwb niwrol, mae’n hanfodol bod menywod yn cael cyfle i gymryd asid ffolig ychwanegol yn eu deiet cyn neu yn ystod wythnosau cynnar y beichiogrwydd. Mae gwybodaeth fanwl gywir am gymeriant asid ffolig y fam yn hynod werthfawr wrth asesu effeithioldeb y cyngor hwn. Ond mae cofnodion o faint yr asid ffolig a gymerir gan ddarpar famau’n wael mewn cofnodion iechyd. Efallai bod y rhesymau dros hyn yn cynnwys yr amser sydd angen i gofnodi hanes deietegol manwl gywir neu ansicrwydd mamau wrth geisio cofio pryd yn union y cymerasant ychwanegion. Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae hynny o ddata sydd ar gael a phrofiad o fannau eraill yn awgrymu bod llawer o famau’n methu â chymryd ychwanegion asid ffolig ar yr adegau a argymhellir a bod posibiliadau o atal namau yn y tiwb niwrol yn well heddiw trwy wella cymeriant mamau.
Mesur ataliol amgen yw cadarnhau blawd ag asid ffolig, a fyddai’n golygu cynydd yng nghymeriant y boblogaeth gyffredinol yn hytrach na thargedu mamau’n benodol. Mae’r mesur hwn wedi cael ei gyflwyno mewn sawl gwlad arall sydd wedi arddangos gostyngiad wedyn mewn namau yn y tiwb niwrol. Gallai cynnydd ym maint yr asid ffolig a gymerir gan y boblogaeth arwain hefyd at leihad ym mynychder rhai o glefydau cynhenid y galon a rhai canserau ymhlith oedolion. Mae gwrthwynebwyr cadarnhau blawd wedi dadlau y gallai ymyrraeth o’r fath ar lefel y boblogaeth arwain at ganlyniadau negyddol trwy gynyddu’r risg o rai anhwylderau niwro-ddirywiol ac o ganser y colon, er bod y risgiau hyn yn seiliedig ar astudiaethau o anifeiliaid yn hytrach na bodau dynol.
O ystyried bod gan Gymru gyfraddau namau’r tiwb niwrol sydd gyda’r rhai uchaf yn Ewrop, bod y gostyngiad blaenorol mewn cyfraddau yng Nghymru wedi dod i ben, a bod posibiliadau pellach o ddefnyddio mesurau sylfaenol i atal yr anhwylderau anablol hyn, mae CARIS yn bwriadu datblygu papur trafod gyda golwg ar fynd â’r mater hwn yn ei flaen yng Nghymru.
Er na ddarganfuwyd yr un achos amlwg mewn ymchwiliadau blaenorol, bydd CARIS yn gweithio gyda byrddau iechyd perthnasol i chwilio o’r newydd am unrhyw esboniad o’r lefelau uchel a ganfuwyd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan gyflwyno unrhyw argymhellion ynghylch gweithredu ymhellach a allai helpu i ostwng cyfraddau yn y dyfodol