Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae’r firws Varicella-zoster (VZV) yn firws DNA eithaf cyffredin sy’n achosi brech yr ieir. Gall VZV oroesi ac aros yn y corff ar ôl heintiad cychwynnol fel haint cudd, ac mae ailysgogi VZV cudd yn achosi’r eryrod. Lledaenir VZV trwy gyfrwng heintiau resbiradol a thrwy bilen y llygaid. Er bod brechlyn effeithlon ar gael rhag brech yr ieir, nid yw’n rhan o’r rhaglen imiwneiddio plant arferol yn y DU; argymhellir ei ddefnyddio serch hynny ar gyfer grwpiau penodol yr ystyrir bod eu risg o ddioddef cymhlethdodau’n uwch.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag brech yr ieir a phwy ddylai ei dderbyn yma:

 http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/doityourself/vaccinations/Chickenpoxvaccine/