Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ei ganfod?

Newidiodd yr arfer yng Nghymru ym mis Ebrill 2018 o ran sgrinio cynenedigol ar gyfer trisomeddau 21, 13 ac 18 wrth i’r prawf cynenedigol anfewnwthiol (NIPT) ddechrau cael ei ddefnyddio yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Cymru yw’r wlad gyntaf o’r pedair yn y wladwriaeth Brydeinig sydd wedi cyflwyno NIPT fel rhan o’r llwybr sgrinio. Cynigir i fenywod, fel rhan o’r llwybr sgrinio cynenedigol, yr opsiwn o gael prawf gwaed syml (NIPT) yn hytrach nag amniocentesis neu samplu filws corionig, os yw eu profion cynenedigol blaenorol yn awgrymu bod ganddynt debygrwydd uwch o feichiogrwydd y bydd un o’r anhwylderau hyn yn effeithio arno.

Gellir darllen rhagor am y llwybr sgrinio yma: http://www.antenatalscreening.wales.nhs.uk