Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/baban?

Bydd anabledd dysgu gan bob person sydd â Syndrom Down. Mae hyn yn golygu posibilrwydd o oedi yn eu datblygiad  ac y byddant yn cymryd mwy o amser i ddysgu pethau newydd. Bydd tuag 8 o bob 10 o blant sydd â’r anhwylder hwn yn mynd i ysgolion cynradd y brif ffrwd, er bod unigolion yn amrywio’n aruthrol o ran eu ffordd o ddatblygu a bydd ganddynt wahanol anghenion cymdeithasol ac o ran eu hiechyd. Bydd angen cefnogaeth arnynt i gyd drwy gydol eu gyrfa ysgol ac wedyn, ond gall dwysedd y cymorth hwn amrywio.

Mae rhai plant â Syndrom Down yn wynebu heriau eraill i’w hiechyd o ganlyniad i’r anomaleddau cynhenid cysylltiedig. Mae’r rhain yn cwmpasu anomaleddau cardiaidd a choluddol; problemau gweledol megis pilennau llygaid; nam ar y clyw;  heintiau aml yn y pibellau anadlu, a mynychder lewcemia ychydig yn uwch. Wrth i fwy o unigolion â Syndrom Down fyw yn hwy, ymddengys efallai fod Clefyd Alzheimer yn digwydd yn amlach ac yn ymddangos yn gynharach. Bydd y driniaeth ar gyfer yr anhwylderau cysylltiedig i gyd yn amrywio yn unol â’u henbydrwydd a’r angen.

Yn achos y babanod bywanedig a gofnodir ar gronfa ddata CARIS, gwyddys bod gan 63.1% anomaledd cardiaidd; bod gan 4.4% anomaledd coluddol, a bod hypothyroidedd ar 5.8% ohonynt. Mae’r anomaleddau cardiaidd a choluddol a gofnodwyd yn amrywio’n fawr o ran lefel eu henbydrwydd a’r angen am ymyrraeth.