Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ei reoli, a beth yw'r deilliant?

Yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd y ceilliau’n symud i lawr i mewn i’r ceillgwd yn ystod 3 - 6 mis cyntaf bywyd y baban. Arferir ei atgyfeirio at lawfeddyg pediatrig cyn i’r bachgen gyrraedd 6 mis oed. Os argymhellir triniaeth, yna cyflawnir orcidopecsi i symud y gaill a’i gosod yn sownd yn y ceillgwd, a hynny fel rheol cyn i’r bachgen gyrraedd dwy flwydd oed. Os erys y ceilliau heb ddisgyn, yna mae cynnydd yn y risg o broblemau ffrwythlondeb a chanser y ceilliau yn hwyrach ym mywyd y bachgen.