Neidio i'r prif gynnwy

Pam ydych chi'n dod â'ch rhaglen wobrau i ben?

Mae rhaglen gwobrau HWW yn dod i ben ar ôl 15 mlynedd lwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys y Safon Iechyd Corfforaethol (CHS) a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach (SWHA). Nid ydym bellach ychwaith yn parhau â'n cynllun i ailwampio'r rhaglen wobrau i fformat modiwlaidd sy'n fwy seiliedig ar bynciau. Rydym yn dal i ddefnyddio dull tebyg trwy ein cynnig digidol gyda chanllawiau clir ar gamau i'w cymryd ar bynciau penodol, gan gynnwys camau cyflym ymlaen.

Mae’r newidiadau wedi digwydd oherwydd addasu’r blaenoriaethau a’r gweithgareddau y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gyrraedd hyd yn oed mwy o gyflogwyr drwy gynnig digidol gwell tra’n rhoi HWW ar sylfaen fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. (Am ragor o wybodaeth, gweler datganiad y Gweinidog.)

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd diwedd y rhaglen wobrau yn newyddion siomedig i’n deiliaid gwobrau, y mae llawer ohonynt wedi dangos ymrwymiad mawr i iechyd a llesiant eu staff dros nifer o flynyddoedd.

Fodd bynnag, mae'r gwaith y mae deiliaid y gwobrau wedi'i wneud hyd yn hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa gref iawn i adeiladu arno wrth symud ymlaen. Bydd y canllawiau, yr offer a’r e-ddysgu yr ydym yn eu datblygu yn parhau i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar gyflogwyr i fwrw ymlaen â dulliau iechyd a llesiant.

Dros amser, trwy ein gwefan newydd arfaethedig, ein nod yw creu fforymau cefnogaeth gan gymheiriaid a chyfleoedd i gyflogwyr rannu dysgu a dulliau. Byddwn hefyd yn cynnal gweithdai a fydd yn gyfle i ryngweithio gyda'n hymgynghorwyr a cheisio cefnogaeth ar faterion penodol.