Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r newidiadau i'r rhaglen HWW?

Bydd cynnig digidol gwell yn galluogi HWW i barhau i gefnogi cyflogwyr i greu gweithleoedd iach a diogel a hyrwyddo dulliau iechyd a llesiant gyda’u gweithluoedd. Bydd hyn yn cynnwys offer dysgu a datblygu newydd i'w helpu i feithrin sgiliau a gallu iechyd a llesiant.

Ar yr un pryd, mae HWW yn symud i ddarparu cymorth uniongyrchol llai teilwredig i gyflogwyr gan ei dîm o Gynghorwyr arbenigol yn ogystal â dod â rhaglen gwobrau HWW i ben ar ôl 15 mlynedd.

Bydd cynnwys gwefan wedi'i ailwampio a'i ehangu yn rhoi'r arweiniad a'r adnoddau diweddaraf i gyflogwyr ar bob agwedd ar amgylcheddau gwaith iach, ymddygiadau ffordd iach o fyw a chefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd.

Bydd ein tîm yn cyflwyno offer arolwg ar-lein ar gyfer cyflogwyr, a ddatblygwyd gyda Phrifysgol Caerdydd, i'w helpu i asesu eu parodrwydd i roi dulliau iechyd a llesiant ar waith, eu bylchau a'u meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Bydd adroddiadau unigol yn cael eu darparu i gyflogwyr sy'n cwblhau'r offer arolwg i amlygu meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ac i roi arweiniad ar y camau nesaf.

Fel rhan o'r newidiadau, mae HWW yn cychwyn ar bartneriaeth newydd gyda Busnes Cymru. Bydd hyn yn cyfuno arbenigedd iechyd a llesiant HWW â sgiliau a gwybodaeth ddigidol Busnes Cymru wrth ddarparu e-gynhyrchion proffesiynol i fusnesau. Bydd hyn yn galluogi ein rhaglen i ddarparu cymorth i hyd yn oed mwy o gyflogwyr ledled Cymru.