Ymyrraeth:
Nodwyd naw astudiaeth (dwy o ansawdd da, chwech o ansawdd cymedrol ac un o ansawdd gwael) wrth archwilio ymyriadau ymddygiad. Nod pob un o’r astudiaethau oedd cynyddu teithio llesol trwy addysg a hyrwyddo ac nid oeddent o natur isadeiledd. Roedd y nodweddion ymyrraeth yn amrywio rhwng astudiaethau. Roedd y nodweddion addysg yn cynnwys dosbarthu deunydd addysgol a phecynnau adnoddau, seminarau, a hyfforddiant cydlynwyr eco-deithio. Y nodweddion hyrwyddo oedd digwyddiadau dathlu, teithiau tywys, dosbarthu deunydd hyrwyddo a strategaethau marchnata teithio unigol. Defnyddiwyd technegau newid ymddygiad eraill mewn rhai astudiaethau (fel awgrymiadau a gosod nodau).
Ansawdd y dystiolaeth:
Yn gyffredinol, dangosodd y rhan fwyaf o astudiaethau effaith o blaid yr ymyrraeth ar draws amrywiaeth o ganlyniadau teithio llesol (fel cerdded a beicio pwrpasol). Fodd bynnag, dylid nodi na wnaeth pedair allan o naw astudiaeth (un o ansawdd uchel a thair o ansawdd cymedrol) adrodd a oedd eu canfyddiadau yn arwyddocaol yn ystadegol.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd pedair astudiaeth yn y DU, tair yn Awstralia, un yn UDA ac un yn Japan. Felly, gallai’r ymyriadau fod â chymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod archwiliad manwl o’r sail dystiolaeth yn cael ei gynnal, i gefnogi dylunio a gweithredu. Dylai gwerthusiad trylwyr o effaith gael ei gynnal hefyd.