Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau yn y boblogaeth gyffredinol a/neu'r gymuned

 

 

 

Gallai mentrau aml-gydran tref neu ar draws rhanbarth (fel trefi arddangos beicio) gynyddu beicio i’r ysgol neu feicio i’r gwaith 18, 32, 69

 

Ymyrraeth:
Gwerthusodd tair astudiaeth o ansawdd cymedrol ymyriadau trefi arddangos beicio. Nod y rhain oedd ysgogi lefelau beicio trwy ddull aml-gydran. Roedd y cydrannau’n cynnwys uwchraddio seilwaith ffisegol (fel cyfleusterau beicio newydd) i gynyddu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, neu o fewn ysgolion, ac elfennau newid ymddygiad fel cynlluniau beicio a marchnata sy’n hyrwyddo. Roedd un astudiaeth hefyd yn cynnwys swyddogion ‘Beicio’ mewn ysgolion.

Ansawdd y dystiolaeth:
Nododd bob un o’r tair astudiaeth gynnydd mewn beicio ar gyfer teithio llesol i’r gwaith neu’r ysgol, er bod yr arwyddocâd ystadegol yn aneglur mewn un astudiaeth.

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd dwy o’r astudiaethau yn y DU ac un yn UDA. Felly, dim ond cymhwysedd rhannol oedd i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod archwiliad manwl o’r sail dystiolaeth yn cael ei gynnal, gan ystyried cyd-destun yr ymyrraeth, i gefnogi ei dylunio a’i gweithredu. Dylid cynnal gwerthusiad trylwyr o effaith hefyd.

Gallai ymyriadau ymddygiadol sy’n defnyddio addysg neu hyrwyddo gynyddu teithio llesol. 11, 15, 25, 41, 61, 63, 71, 82, 83

 

Ymyrraeth:
Nodwyd naw astudiaeth (dwy o ansawdd da, chwech o ansawdd cymedrol ac un o ansawdd gwael) wrth archwilio ymyriadau ymddygiad. Nod pob un o’r astudiaethau oedd cynyddu teithio llesol trwy addysg a hyrwyddo ac nid oeddent o natur isadeiledd. Roedd y nodweddion ymyrraeth yn amrywio rhwng astudiaethau. Roedd y nodweddion addysg yn cynnwys dosbarthu deunydd addysgol a phecynnau adnoddau, seminarau, a hyfforddiant cydlynwyr eco-deithio. Y nodweddion hyrwyddo oedd digwyddiadau dathlu, teithiau tywys, dosbarthu deunydd hyrwyddo a strategaethau marchnata teithio unigol. Defnyddiwyd technegau newid ymddygiad eraill mewn rhai astudiaethau (fel awgrymiadau a gosod nodau).

Ansawdd y dystiolaeth:
Yn gyffredinol, dangosodd y rhan fwyaf o astudiaethau effaith o blaid yr ymyrraeth ar draws amrywiaeth o ganlyniadau teithio llesol (fel cerdded a beicio pwrpasol). Fodd bynnag, dylid nodi na wnaeth pedair allan o naw astudiaeth (un o ansawdd uchel a thair o ansawdd cymedrol) adrodd a oedd eu canfyddiadau yn arwyddocaol yn ystadegol.

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd pedair astudiaeth yn y DU, tair yn Awstralia, un yn UDA ac un yn Japan. Felly, gallai’r ymyriadau fod â chymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod archwiliad manwl o’r sail dystiolaeth yn cael ei gynnal, i gefnogi dylunio a gweithredu. Dylai gwerthusiad trylwyr o effaith gael ei gynnal hefyd.