Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau i gynyddu Teithio Llesol


Cynnwys

Cyflwyniad
- Allwedd Graddio Tystiolaeth
Dulliau a chyfeiriadau
- Lawrlwytho crynodeb


Cyflwyniad

Defnyddir teithio llesol i ddisgrifio cerdded a beicio ar gyfer teithiau pwrpasol i gyrchfan, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae lefelau teithio llesol yng Nghymru yn isel ar hyn o bryd o’u cymharu â gwledydd eraill yn Ewrop[1]. Mae cynyddu teithio llesol yn brif flaenoriaeth yng Nghymru, gan gyfrannu at gyflawni pob un o saith nod llesiant Cymru.[2] 

Nod y crynodeb tystiolaeth yma yw nodi ac archwilio’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw’r ymyriadau cyffredinol neu grŵp targed/dethol mwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu teithio llesol yn y boblogaeth gyffredinol?
  2. Pa ymyriadau sydd yn arwain at newid dulliau teithio o ran defnydd y boblogaeth gyffredinol o drafnidiaeth, er enghraifft cyfyngu neu leihau’r defnydd o geir a/neu gynyddu’r defnydd o feicio, cerdded neu drafnidiaeth gyhoeddus?

Mae’r datganiadau uchod wedi cael eu llunio gan ddefnyddio tystiolaeth o 87 o astudiaethau sylfaenol oedd yn bodloni ein meini prawf cynhwysiant ar gyfer y crynodeb tystiolaeth yma. Er mwyn ystyried eu cynnwys roedd yn rhaid eu bod yn cynnwys mesur canlyniad teithio llesol (fel cerdded neu feicio) ar gyfer taith bwrpasol i gyrchfan, neu newid dull o deithio (er enghraifft, gostyngiad yn y defnydd o gar gyda chynnydd cyfatebol mewn cerdded). Mae’r datganiadau wedi cael eu categoreiddio yn ôl lleoliad.

Yn seiliedig ar ddata a echdynnwyd o’r ffynonellau a nodwyd, mae’r ymyriadau wedi cael eu categoreiddio i’r rheiny y mae’r dystiolaeth yn awgrymu allai fod yn effeithiol, gallai fod yn aneffeithiol a’r rheiny lle mae’r dystiolaeth yn amhendant.

I weld y datganiadau tystiolaeth, cliciwch drwy i'r categori diddordeb isod:
 

  1. Ymyriadau yn y boblogaeth gyffredinol a/neu’r gymuned
  2. Mentrau teithio i’r ysgol
  3. Mentrau teithio i’r gweithle

 

Allwedd Graddio Tystiolaeth


 

 

Mae’r crynodeb hwn wedi ei ddylunio i:

  • Gefnogi’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau am bolisïau neu weithredu cenedlaethol neu leol
  • Cefnogi sgyrsiau archwiliadol am ymyriadau, rhaglenni a gwasanaethau trwy:
    • Arddangos y mathau o ymyriadau sydd wedi cael eu hymchwilio
    • Amlygu’r mathau o ymyriadau sydd yn dangos canlyniadau addawol ac yn haeddu archwiliad pellach sy’n benodol i gyd-destun
    • Amlygu’r mathau o ymyriadau sydd yn llai tebygol o gael eu cefnogi gan y dystiolaeth ac y dylid eu hosgoi ar hyn o bryd.

 

Nid yw’r crynodeb hwn wedi ei ddylunio i:

  • Roi asesiad ansawdd a chyd-destunol manwl o’r sail dystiolaeth ar gyfer pob ymyrraeth ac ni ddylid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun i ddyrannu adnoddau
  • Ystyried blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, addasu i gyd-destun lleol, meintiau effaith na chostau
  • Cynnwys yr holl ymyriadau posibl.

Nododd llawer o’r astudiaethau ganlyniadau eraill hefyd fel cynnydd mewn gweithgaredd corfforol sydd heb gael eu hadrodd yn y crynodeb yma o dystiolaeth testun. Awgrymir felly, os ydych yn bwriadu gweithredu unrhyw un o’r ymyriadau hyn, eich bod yn craffu ymhellach ar y sail dystiolaeth i nodi unrhyw ganlyniadau nas bwriadwyd, neu unrhyw newidiadau cadarnhaol mewn meysydd neu ganlyniadau eraill (er enghraifft, yn lleihau tagfeydd traffig, lleihau damweiniau ar y ffyrdd neu’n cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol cyffredinol).

Dulliau a chyfeiriadau



Lawrlwytho crynodeb

Ymyriadau i gynyddu Teithio Llesol

 

 

© 2022 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gellir atgynhyrchu deunydd yn y ddogfen hon o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/ ar yr amod y caiff hynny ei wneud yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Dylid cydnabod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
ISBN: 978-1-83766-118-3