Ymyrraeth:
Gwerthusodd tair astudiaeth o ansawdd cymedrol ymyriadau trefi arddangos beicio. Nod y rhain oedd ysgogi lefelau beicio trwy ddull aml-gydran. Roedd y cydrannau’n cynnwys uwchraddio seilwaith ffisegol (fel cyfleusterau beicio newydd) i gynyddu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, neu o fewn ysgolion, ac elfennau newid ymddygiad fel cynlluniau beicio a marchnata sy’n hyrwyddo. Roedd un astudiaeth hefyd yn cynnwys swyddogion ‘Beicio’ mewn ysgolion.
Ansawdd y dystiolaeth:
Nododd bob un o’r tair astudiaeth gynnydd mewn beicio ar gyfer teithio llesol i’r gwaith neu’r ysgol, er bod yr arwyddocâd ystadegol yn aneglur mewn un astudiaeth.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd dwy o’r astudiaethau yn y DU ac un yn UDA. Felly, dim ond cymhwysedd rhannol oedd i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod archwiliad manwl o’r sail dystiolaeth yn cael ei gynnal, gan ystyried cyd-destun yr ymyrraeth, i gefnogi ei dylunio a’i gweithredu. Dylid cynnal gwerthusiad trylwyr o effaith hefyd.