Ymyrraeth:
Gwerthusodd dwy astudiaeth (un o ansawdd cymedrol ac un o ansawdd gwael) welliannau i lwybrau rheilffyrdd trafnidiaeth gyhoeddus. Archwiliodd un astudiaeth o ansawdd cymedrol effaith llinell rheilffordd newydd ac edrychodd un astudiaeth o ansawdd gwael ar ychwanegu safle rheilffordd newydd i lwybr presennol.
Ansawdd y dystiolaeth:
Roedd canlyniadau ac ansawdd yr astudiaethau gafodd eu cynnwys yn anghyson. Canfu un astudiaeth nad oedd ychwanegu llinell rheilffordd newydd yn cael unrhyw effaith arwyddocaol, a chanfu’r llall gynnydd arwyddocaol mewn canlyniadau teithio llesol wrth ychwanegu safle rheilffordd newydd.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd y ddwy astudiaeth yn UDA felly dylid ystyried ymhellach a fyddai ganddynt gymhwysedd i Gymru.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr o effaith.