Ymyrraeth:
Edrychodd chwe astudiaeth o ansawdd gwael ar wella cysylltiadau beicio a cherdded. Roeddent i gyd yn ceisio cynyddu cysylltedd ardaloedd (fel cymdogaethau sy’n cysylltu ag ardaloedd masnachol) trwy wella seilwaith. Roedd cydrannau’r ymyrraeth yn cynnwys adeiladu llwybrau a phontydd heb draffig a gwella lonydd beicio ar ac oddi ar y stryd.
Ansawdd y dystiolaeth:
Roedd y canlyniadau’n anghyson gyda thair astudiaeth yn nodi effeithiau cadarnhaol sylweddol ar gyfer canlyniadau teithio llesol. Fodd bynnag, cafodd yr holl astudiaethau eu harfarnu i fod o ansawdd gwael.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd pump o’r chwe astudiaeth yn UDA, gydag un astudiaeth yn cael ei chynnal yn y DU. Felly, roedd gan yr ymyriadau gymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried amgylchedd cyd-destunol y gwledydd gwahanol.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr.