Ymyrraeth:
Archwiliodd tair astudiaeth (un o ansawdd cymedrol, dwy o ansawdd gwael) ymyriadau aml-gydran ar draws y gymuned. Roedd un yn canolbwyntio ar gynyddu cerdded a’r ddwy arall ar gynyddu teithio llesol a theithio llai mewn cerbydau preifat. Roedd y cydrannau ymyrraeth yn cynnwys nodweddion fel gwella llwybrau cerdded a beicio, gweithgareddau ac ymgyrchoedd hyrwyddo, a grwpiau cerdded gyda chymhellion ychwanegol ar gyfer cyfranogiad/cyrraedd nodau. Roedd cydrannau eraill yn cynnwys diwrnodau hyrwyddo (fel diwrnodau cymudo clyfar) a chyllid ar gyfer gwelliannau i seilwaith (e.e. rheseli beiciau, palmentydd). Roedd un astudiaeth hefyd yn cynnwys rhaglen llwybrau diogel i’r ysgol fel rhan o’r ymyrraeth gymunedol ehangach.
Ansawdd y dystiolaeth:
Roedd yr astudiaethau yn amrywio o ran ansawdd a nodwyd effeithiolrwydd cymysg o ran canlyniadau teithio llesol.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd dwy astudiaeth yn UDA ac un yn Iwerddon felly mae angen rhoi ystyriaethau pellach i’r cwestiwn a fyddai’r ymyriadau hyn â chymhwysedd i Gymru.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen mwy o ymchwil gadarn a gwerthusiad trylwyr o effaith.